Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Lansio Gwasanaeth Integredig ar gyfer Awtistiaeth ym Mhowys (BIAP)

Cyrhaeddwyd carreg filltir o bwys i bobl ag awtistiaeth yr wythnos hon, wrth i'r Gwasanaeth Integredig cyntaf yng Nghymru ar gyfer awtistiaeth gael ei lansio'n swyddogol ym Mhowys.
 
Mae datblygu Gwasanaeth Integredig ar gyfer Awtistiaeth ar draws y sir yn ymrwymiad allweddol yng nghynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Anhwylderau ar Sbectrwm Awtistiaeth a gyhoeddwyd y llynedd. Roedd lansio’r gwasanaeth newydd ym Mhowys yr wythnos diwethaf (12 Gorffennaf) gan Weinidog Llywodraeth Cymru dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans AC, yn nodi cam hanfodol mewn rhaglen genedlaethol a fydd yn  darparu gwasanaeth awtistiaeth bob-oed i bob rhan o Gymru.
 
Nod y gwasanaeth yw ymateb i adborth oddi wrth bobl ag awtistiaeth, rhieni a gofalwyr ynglÅ·n â'r gefnogaeth maent ei hangen a'r heriau meant yn eu hwynebu. Ar hyd a lled Cymru, maent dywedant eu bod am gael cymorth gyda materion yn ymwneud ag ymddygiad, materion emosiynol fel pryder a dicter, datblygu sgiliau cymdeithasol a bywyd pob dydd a defnyddio gweithgareddau hamdden. Mae eu teuluoedd a'u gofalwr yn dweud bod angen cymorth arbenigol arnynt ar gyfer eu rôl wrth ofalu am eu hanwyliaid a'u cefnogi.
 
Trwy sefydlu Gwasanaeth Integredig ar gyfer Awtistiaeth ymhob rhan o Gymru, nod Llywodraeth Cymru yw darparu gwasanaeth ar gyfer pob oed, yn y gymuned, sy'n dwyn ynghyd staff o amrywiaeth o feysydd proffesiynol a gwasanaethau. Bydd y gwasanaeth yn ceisio darparu asesiad diagnostig ar gyfer oedolion, yn ogystal â chyngor, cymorth ac ymyriadau i oedolion ag awtistiaeth. Bydd hefyd yn cynorthwyo gweithwyr proffesiynol eraill yn y sector iechyd a gofal fel eu bod yn gallu diwallu anghenion pobl ag awtistiaeth yn well pan maent yn ceisio cyngor a chymorth.
 
Wrth lansio’r Gwasanaeth Integredig newydd ar gyfer Awtistiaeth ym Mhowys yn Adeilad Erwyd, Ysbyty Bronllys, dywedodd Rebecca Evans AC, y Gweinidog ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus:
 
“Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran darparu gwasanaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth. Bydd y Gwasanaeth Integredig cenedlaethol ar gyfer Awtistiaeth yn golygu bod yna dimau arbenigol newydd ymhob rhanbarth yng Nghymru, a bydd y timau hyn yn darparu diagnosis ar gyfer oedolion, cymorth gyda throsglwyddo, cymorth cymunedol i bobl, a hefyd hyfforddiant ar gyfer pobl broffesiynol mewn amrywiaeth eang o feysydd. Byddwn hefyd yn sicrhau bod pobl yn cydweithio fel seicolegwyr, therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymorth o bob rhan o faes iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth, a bydd maes addysg hefyd yn gweithio’n agosach nag erioed o’r blaen gyda meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.
 
“Hoffwn longyfarch Powys am fod yn gyntaf i gyflwyno eu gwasanaeth integredig ar gyfer awtistiaeth. Bydd Cwm Taf, Caerdydd a’r Fro a Gwent hefyd yn cyflwyno’u gwasanaethau hwythau yn ddiweddarach eleni, a gweddill yr ardaloedd yn cyflwyno’u gwasanaethau erbyn 2018. Felly byddwn i gyd yn edrych ar Bowys i weld beth allwn ni ddysgu a’ch gweld chi’n mynd amdani, felly rwy’n falch dros ben o’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni.”
 
Mae’r gwasanaeth ym Mhowys yn bartneriaeth rhwng pobl ag awtistiaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr, staff a sefydliadau, ac roedd cynrychiolwyr i bob un ohonynt yn yr achlysur lansio'r wythnos hon. Mae gweithio ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys yn cynnal y bartneriaeth yma, a hwy oedd yn croesawu pobl i’r cyfarfod lansio.
 
Dywedodd yr Athro Vivienne Harpwood, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
 
“Nod y Gwasanaeth Integredig ar gyfer Awtistiaeth yw darparu profiad llawer mwy di-fwlch ar gyfer pobl ag awtistiaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Cynrychioli’r camau cyntaf yn y daith tuag at gyd-gynhyrchu gwasanaeth sy’n cynorthwyo pobl ag awtistiaeth i ffynnu mae’r lansiad yma. Bydd y camau nesaf yn adeiladu ar yr ymrwymiad rhwng y bwrdd iechyd a Chyngor Sir Powys yn ei Strategaeth Iechyd a Gofal cyntaf, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis yma, i gynorthwyo holl bobl Powys i Ddechrau’n Dda, Byw’n Dda a Heneiddio’n Dda.”
 
Y Cyngh Stephen Hayes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar faterion Gofal Cymdeithasol Oedolion:
 
“Mae gennym brofiad yma ym Mhowys o ddatblygu gwasanaethau integredig, ond bydd y gwasanaeth newydd hwn yn fwy integredig na'r rhelyw, oherwydd bydd yn cynnwys partneriaeth gyda'r gwasanaeth tai ac addysg, yn ogystal ag iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector, defnyddwyr gwasanaeth ac ystod amrywiol o bartneriaid.”
 
 “Bydd unrhyw wasanaeth newydd yn cael ei farnu yn ôl y budd y mae'n ei gyflwyno i'r rheiny y mae'n eu gwasanaethu, ac yn achos y Gwasanaeth Integredig ar gyfer Awtistiaeth, mae hynny'n golygu'r cymorth y mae'n ei roi i'r rheiny sydd ar y sbectrwm awtistiaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr wrth iddynt ddefnyddio gwasanaethau a chyflawni a chynnal llesiant yn ystod pob cyfnod o'u bywyd.”
 
Dywedodd y Dr Nicola Jones, Arweinydd Clinigol y Gwasanaeth Integredig ar gyfer Awtistiaeth ym Mhowys:
 
“Ar ran y tîm hoffwn ddiolch i’r Gweinidog a phawb sy’n bresennol am ymweld â ni i ddysgu am y gwasanaeth ac i gynorthwyo’r lansio swyddogol yma.  Hoffwn i ddiolch i’r tîm a’r rheiny yn y cefndir i ddatblygu gwasanaeth rhagorol. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phobl ar y sbectrwm awtistiaeth a’u teuluoedd, a’r gweithwyr proffesiynol sy’n ceisio cyngor a chymorth, er mwyn parhau i ddatblygu’r gwasanaeth hwn i bobl Powys fel rhan o wasanaeth cenedlaethol newydd i Gymru.”
 
Mae rhagor o wybodaeth am ddatblygu'r Gwasanaethau Integredig ar gyfer Awtistiaeth ar hyd a lled Cymru ar gael o wefan ASD Info Wales yn http://www.asdinfowales.co.uk