Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Dysgu am Awtistiaeth – Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol

Dros bum mlynedd yn ôl, lansiodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol* eu rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth gyntaf er mwyn codi ymwybyddiaeth mewn Ysgolion Cynradd.  Yn 2017 cyflwynwyd mwy o raglenni ar gyfer Lleoliadau’r Blynyddoedd Cynnar ac Ysgolion Uwchradd, yna lansiwyd rhai ar gyfer Addysg Bellach yn 2020. Hyd yma mae 213 o Ysgolion Cynradd dros Gymru wedi ennill eu gwobr ar gyfer yr ysgol gyfan, yn ogystal â 96 o leoliadau’r Blynyddoedd Cynnar a 20 o Ysgolion Uwchradd.

 

Mae ein rhaglenni Dysgu am Awtistiaeth yn gyfres o raglenni sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth am awtistiaeth ar draws pob lleoliad gofal ac addysg gan gynnwys darpariaeth nas cynhelir a darpariaeth a gynhelir.  Mae pob adnodd ar gael gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol heb gost, gan eu bod wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru a’u datblygu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Mae pecyn o adnoddau ar gael ar gyfer pob rhaglen sy’n cynnwys ffilmiau hyfforddi, cynlluniau tystysgrif ac adnoddau defnyddiol fel teclyn adeiladu proffil plentyn a chardiau llun.

 

Ym Medi 2020, gwnaeth y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ailfrandio gwefan ASDinfoWales.co.uk, a lansio eu gwefan newydd AwtistiaethCymru.org.  Yn ystod y cyfnod hwn y gwnaeth y tîm ailenwi ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’ yn ‘Dysgu am Awtistiaeth’.

 

Fel y gŵyr pob un ohonoch, Hwb yw platfform digidol Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgwyr ac athrawon sy’n cynnig mynediad at ystod eang o offer ac adnoddau digidol, dwyieithog sy’n cael eu hariannu’n ganolog. Mae’r holl adnoddau hyn sydd ar gael am ddim, a dolenni i’n rhaglenni Dysgu am Awtistiaeth, ar gael ar blatfform Hwb Llywodraeth Cymru, gan wneud yr adnoddau Dysgu am Awtistiaeth yn fwy gweledol ac yn hygyrch i bob ysgol ar draws Cymru.

 

Gwnaed rhai gwelliannau i’r adnoddau ar draws y wefan a hoffem ddweud mwy wrthych am y rhai a restrir isod:

  1. Hygyrchedd – Mae AwtistiaethCymru.org yn wefan gwbl ddwyieithog, gwnaed mwy o welliannau drwy gyflwyno dull i amrywio maint y testun a hidlyddion lliw ar gyfer y tudalennau gwe.
  2. Archarwyr Awtistiaeth – Wrth i ni barhau i weithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a lleihau faint o adnoddau rydyn ni’n eu hargraffu, rydym wedi datblygu fersiynau wedi’u hanimeiddio newydd a gwell o stori a llyfrau comic yr Archarwr Awtistiaeth, mae fersiynau wedi’u hadrodd nawr ar gael ar y wefan hefyd.
  3. Dangosfwrdd Defnyddwyr / Cyfrif Defnyddiwr Ysgolion – ar ôl gwyliau’r Pasg, bydd angen i ysgolion gysylltu â’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol i ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer eich ysgol unigol cyn dilyn y rhaglen Dysgu am Awtistiaeth.  Bydd creu’r cyfrifon defnyddiwr generig hyn yn helpu ysgolion i fonitro faint o staff a disgyblion sy’n manteisio ar y rhaglenni ar draws y cynlluniau, ond bydd hefyd yn arbed amser gan na fydd angen i unigolion greu eu cyfrifon defnyddiwr eu hunain ar gyfer y wefan er mwyn cwblhau’r cynlluniau tystysgrif.
  4. Gwobrau Ysgol ac Ailymgeisio – rydym yn awgrymu y dylai pob ysgol gael rhaglen dreigl i sicrhau bod yr holl staff a disgyblion yn ymwybodol o’r adnoddau a’u bod yn ymgymryd â’r cynlluniau tystysgrif perthnasol.  Byddwn yn gofyn i bob ysgol ailymgeisio am eu gwobr ysgol bob 4-5 mlynedd, bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar AwtistiaethCymru.org.

 

Yn dod yn fuan ….

  1. Byddwn yn parhau i ychwanegu is-deitlau at yr adnoddau hyfforddi sydd ar fideo drwy’r wefan i gyd, mae hyn eisoes wedi’i gyflawni ar ein ffilmiau Weli Di Fi?, Beth yw Awtistiaeth a Dysgu Seiliedig ar Waith.
  2. Yn ystod 2020-21 rydym yn datblygu mwy o adnoddau ar gyfer unigolion awtistig a byddwn yn creu ‘Ardal ar gyfer Plant a Phobl Ifanc’.
  3. Mwy o wybodaeth ac enghreifftiau o astudiaethau achos am effaith gadarnhaol y rhaglen Dysgu am Awtistiaeth.

 

Dyma’r hyn a ddywedodd rhai ysgolion am y rhaglen ar ôl derbyn eu gwobr ysgol:

 “Mae ein ffordd o weithio o ddydd i ddydd wedi newid yn sylweddol, rydym wedi tynnu popeth oddi ar y wal, ac rydym wedi peintio’r ystafell yn las/llwyd golau ysgafn. Rydym wedi cael gwared â’r bleinds prysur a rhoi rhai plaen yn eu lle. Mae’r ystafell synhwyraidd yn ardal hanfodol dros ben i blant, ac rydym nawr wedi ei pheintio’n ddu ac mae gennym fleinds rholio trwchus du yno. Rydym wedi newid amseroedd dechrau a gorffen rhai plant er mwyn cyd-fynd â’u hanghenion. Mae hyn wedi galluogi rhai plant i osgoi amseroedd tu hwnt o brysur yn y sesiwn. Rydym wedi symud llawer o deganau o’r ystafell gofal plant gan eu bod yn tueddu i or-symbylu rhai plant.Dechrau’n Deg Sea View

 

 “Mae’r rhaglen wedi galluogi plant i gael gwell dealltwriaeth a bod yn fwy ystyriol tuag at eu cyfoedion sydd ag anawsterau. Mae ganddyn nhw fwy o amynedd ac maen nhw’n meddwl mwy am y rhai o’u cwmpas.” Ysgol Gynradd Penllwyn

 

 “Mae staff yr ysgol yn addasu gwersi er mwyn ystyried anghenion disgyblion ag anhwylderau yn y sbectrwm awtistig, gan gynnwys bod yn llawer mwy ymwybodol efallai y bydd angen cefnogaeth ar y disgyblion hynny i gael mynediad at y gwaith a’i ddeall, yn enwedig mewn sefyllfaoedd grŵp ac mewn gwaith pâr.” – Ysgol Gyfun Penyrheol

 

*Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan weithio mewn partneriaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.