Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

DATGANIAD I’R WASG WLGA – Ffilm gydweithredol gyda’r bwriad o godi ymwybyddiaeth am arwyddion awtistiaeth mewn plant

Mae ffilm newydd wedi ei lansio sydd â’r bwriad i wella dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol rheng flaen o awtistiaeth mewn plant.

Daeth y syniad am ffilm ‘The Birthday Party’ yn dilyn ymgynghoriad y Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol gydag unigolion awtistig, rhieni a chynhalwyr. Trwy’r ymgynghoriad hwn, daethpwyd o hyd i fylchau mewn darpariaeth a’r angen am gynnydd mewn ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am awtistiaeth gan weithwyr proffesiynol.

Prosiect partneriaeth yw’r ffilm rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Aston a phartneriaid seicoleg clinigol. Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru sydd wedi ariannu’r ffilm a’i bwriad yw helpu gweithwyr proffesiynol rheng flaen i adnabod arwyddion awtistiaeth mewn plant.

Mae adborth positif gan sampl eang o rieni a phobl broffesiynol wedi arwain at sicrhau fod y ffilm ar gael i’r cyhoedd yn ehangach.

Esbonia yr Athro Sue Leekam, Cadeirydd Awtistiaeth, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru, Prifysgol Caerdydd: “Gellir colli arwyddion awtistiaeth yn aml ond mae’n hanfodol fod pobl broffesiynol yn eu hadnabod fel y gellir gwneud atgyfeiriad priodol ar gyfer diagnosis a chael y gefnogaeth gywir oddi wrth wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a/neu addysg. Mae hi wedi bod yn wych defnyddio canfyddiadau ein hymchwil a gwybodaeth glinigol ar asesiadau awtistiaeth i gynhyrchu’r ffilm hon mewn partneriaeth a’r tîm ASA Cenedlaethol, a leolir o fewn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd pawb sy’n gwylio’r ffilm yn adnabod ARWYDDION sylfaenol awtistiaeth, yn ymwybodol fod yr arwyddion yn gallu cyflwyno eu hunain mewn ffyrdd gwahanol, ac yn gwybod fod patrwm cyfarwydd a hawdd ei adnabod lle gwelir yr arwyddion hyn gyda’i gilydd.”

Meddai Steve Thomas CBE, Prif Weithredwr WLGA: “Rwy’n falch o’r gwaith sydd yn cael ei wneud i wella dealltwriaeth o awtistiaeth mewn plant. Gobeithio y bydd y ffilm, sydd ar gael i’w wylio gan bobl broffesiynol a’r cyhoedd fel eu gilydd, yn cyfrannu i newid canfyddiadau ac, yn ei dro, yn gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau sydd ar gael i blant ag awstistiaeth.”

Gellir gwylio’r ffilm ar www.autismchildsigns.com. Am fwy o wybodaeth ac adnoddau am awtistiaeth, ewch i www.ASDinfoWales.co.uk.