Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Croeso i’n gwefan newydd!

Ddydd Mawrth 29 Medi 2020, lansiodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol eu gwefan newydd sbon sef AwtistiaethCymru.org/AutismWales.org (ASDinfoWales.co.uk gynt).

Er bod y wefan flaenorol yn un adnabyddus a sefydledig, ac yn darparu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i bobl awtistig, eu teuluoedd, rhieni/gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd, teimlai’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ei bod yn bryd i’r wefan gael ei hadfywio.

Rhwng Hydref 2019 a Ionawr 2020, rhannodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol arolwg ar-lein yn gofyn i ddefnyddwyr y wefan, budd-ddeiliaid allweddol a rhwydweithiau am adborth am y wefan www.ASDinfoWales.co.uk.  Derbyniwyd llawer o ymateb i’r arolwg gan bobl awtistig, rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.  Cadarnhaodd yr adborth bod lle i wella o ran profiad y defnyddiwr a gwelywio’r safle, a bod angen diweddaru rhywfaint o’r cynnwys.

Ar ddechrau 2020, cwblhaodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol broses gaffael a chomisiynodd ddarparwr gwefan newydd.  Yn ystod mis Ebrill / Mai 2020, sefydlodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol Fwrdd Prosiect a dau Grŵp Budd-Ddeiliaid – un ar gyfer cynnwys a’r llall ar gyfer profi. Sicrhaodd y cyfarfodydd hyn bod datblygiad y wefan newydd yn cynnwys barn a lleisiau pobl awtistig, rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol a oedd yn gyfarwydd iawn â’r hen wefan.

Newidiadau a wnaethom…

Parth gwefan newydd

Yn dilyn adborth rheolaidd gan bobl awtistig yng Nghymru a oedd yn dweud bod “model cymdeithasol” anabledd yn fwy priodol i oedolion awtistig na’r model meddygol ar ôl cael diagnosis, roedd llawer o bobl yn teimlo bod yn well ganddynt y term “awtistiaeth” na’r term “ASD”.  Gan hynny, adolygwyd y brand ac enw parth y wefan ac fe brynom barthau ar gyfer AutismWales.org / AwtistiaethCymru.org, ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan y Grŵp Budd-Ddeiliad, y Bwrdd Prosiect a’r Bwrdd Rheoli Cenedlaethol.

Gwe-lywio i ddefnyddwyr

Mae gwelywio’r wefan wedi gwella ac mae bellach hyd yn oed yn fwy hygyrch i  amryw o declynnau. Gall y defnyddiwr ddewis edrych ar ddewislen hir i weld beth sydd ar gael ym mhob adran o’r wefan, neu gall ddewis sgrolio trwy’r adrannau o’r dudalen Hafan.  Mae’r llun isod yn dangos y dudalen Hafan newydd:

Mae’r bar offer ar y pen uchaf yn cynnwys:

  • Dolenni hygyrchedd, fel y gall y defnyddiwr ddewis
    • iaith
    • maint testun
    • Hidlydd lliw cefndir / testun
  • Manylion cyswllt y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol a chysylltiadau yn eich ardal leol.
  • Mae gwybodaeth a dogfennau allweddol gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru ar gael o dan Amdanom Ni.
  • Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ac eitemau newyddion ar gael yn yr adran Newyddion a digwyddiadau
  • Mae’r tab adnoddau yn cynnwys dolenni cyswllt i weld ein holl ffilmiau, yn ogystal â sefydliadau defnyddiol eraill a’u hadnoddau nhw, gan gynnwys gwasanaethau Niwroddatblygiadol Cymru.
  • Gallwch fewngofnodi trwy greu enw defnyddiwr a chyfrinair personol i ddefnyddio ein hadnoddau rhyngweithiol a chwblhau’r cynlluniau ardystiedig. Caiff y rhain eu harbed yn eich Dangosfwrdd Defnyddiwr personol.

Rydym wedi ailstrwythuro’r prif adrannau fel bo modd i ddefnyddwyr gael gafael ar yr holl wybodaeth berthnasol yn fwy effeithiol ac effeithlon.  Mae crynodeb o’r adnoddau sydd ar gael o dan bob adran hefyd ar gael i’w gweld o’r ddewislen ac ar y dudalen we:

Gwell hygyrchedd

  • Addasu maint testun
  • Opsiynau hidlyddion lliw cefndir
  • Opsiynau iaith
  • Is-deitlau ar ffilmiau

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma i ddarllen ein datganiad Hygyrchedd.

Beth nesaf?

Bydd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn parhau i weithio gyda’n Grwpiau Budd-Ddeiliaid i wella’r cynnwys a’r adnoddau sydd ar gael ar draws y wefan. Dyma rai meysydd yr ydym yn bwriadu eu datblygu ymhellach dros y misoedd nesaf:

  • Fersiynau o’r comig Archarwr Awtistiaeth a’r llyfrau stori sy’n rhyngweithiol ac wedi’u hadrodd.
  • ‘Dangosfwrdd Defnyddiwr’ i greu safle personol i’r defnyddiwr.
  • Adnoddau a dogfennau Hawdd Eu Deall
  • ‘Ardal Plant a Phobl Ifanc’.
  • Adnoddau cyflogaeth gwell.
  • Y gwaith ymchwil a’r wybodaeth ddiweddaraf.
  • Astudiaethau Achos i ganfod yr arferion da sy’n digwydd mewn gwasanaethau awtistiaeth ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Gerraint Jones Griffiths, person awtistig a Llysgennad Arweiniol y prosiect Engage to Change, All Wales People First. Aelod o Fwrdd Prosiect AwtistiaethCymru.org.

“Mae sefyllfa bresennol Covid-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gwybodaeth gywir, ddibynadwy ar gael yn rhwydd i bawb. Mae hefyd mor bwysig bod y wybodaeth ar gael mewn ffurf hygyrch. Rôl y Grŵp Rhanddeiliaid Cynnwys oedd edrych ar y ffordd yr oedd defnyddwyr yn llywio’r wefan. Cryfder y Grŵp fu’r ystod o aelodaeth. Nid yw’n ddigon da poblogi grŵp o’r fath gyda gweithwyr proffesiynol. Mae’n hanfodol bod y rhai sydd â phrofiad byw o’r cyflwr, a all ddweud a yw rhywbeth yn gweithio, yn cael eu cynnwys yn y broses. Yn syml iawn, nid oes unrhyw faint o hyfforddiant na phrofiad yn cyfateb yn llwyr â mewnwelediad unigolion awtistig eu hunain, ac mae wedi bod yn gymaint o fraint cael gweithio gyda nhw. Gobeithiwn fod y Grŵp Rhanddeiliaid Cynnwys wedi helpu i gynhyrchu gwefan newydd sydd â’r holl bethau da dibynadwy a oedd gan yr hen un, ond nawr ei bod yn llawer haws dod o hyd iddi ac mewn fformat mwy hygyrch. Yn bwysig, mae wedi cael ei lunio gan bobl sy’n cynrychioli’r rhai a fydd yn ei ddefnyddio ac yn elwa ohono.”

Keith Ingram, Arweinydd Awtistiaeth Caerdydd a Bro Morgannwg. Aelod o Grŵp Rhanddeiliaid Cynnwys AwtistiaethCymru.org