Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

CBS Caerffili – NewyddionCydweithio rhwng Ysgol Cae’r Drindod a Heddlu Gwent yn arwain at lansio menter arloesol

Mae Ysgol Cae’r Drindod wedi bod yn gweithio’n agos â Heddlu Gwent fel rhan o fenter arloesol newydd – Protocol y Drindod.

Defnyddir Cynllun Protocol y Drindod gan Heddlu Gwent i’w helpu i ddod o hyd i bobl ag anghenion ychwanegol sydd ar goll neu ddelio ag argyfyngau sy’n cynnwys pobl ag anghenion ychwanegol. Fe’i cynlluniwyd i roi cyfle i anwyliaid a gofalyddion gofrestru â Heddlu Gwent gyda’r bwriad o roi gwybod i swyddogion cyn iddyn nhw ymateb i alwad y gallen nhw fod yn delio â pherson sydd ag anghenion niwroamrywiol.

Os bydd person sydd ag anghenion ychwanegol angen yr heddlu mewn argyfwng ac yn ffonio 999, bydd y swyddog yn gallu cyrchu gwybodaeth am yr unigolyn a allai helpu wrth gyfathrebu â nhw ac felly yn galluogi iddyn nhw fod yn fwy effeithlon wrth ddelio â’r argyfwng.

Os mae person gydag anghenion arbennig ar goll ac wedi cwblhau Protocol y Drindod, gall swyddogion ddefnyddio’r wybodaeth i ddod o hyd iddyn nhw a mynd â nhw i ardal ddiogel. Fel arall, os yw’r unigolyn yn gysylltiedig â throsedd neu’n dioddef trosedd, bydd gan swyddogion mynediad at ei wybodaeth a sicrhau eu bod nhw’n gwybod cymaint â phosibl am yr unigolyn ac addasu eu cyfathrebu a’u dull yn briodol. Er enghraifft, efallai na fydd yr unigolyn yn gallu siarad neu ymateb i orchmynion neu neu efallai y bydd yn ymateb yn dreisgar i oleuadau neu seirenau.

Dywedodd Gary Powell, Cynorthwyydd Addysgu yn Ysgol Cae’r Drindod a wnaeth gweithio’n agos ar y prosiect, “Daeth Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Thomas Bingham-Vick, ataf i gyda’r syniad o greu Protocol y Drindod ar ôl ei brofiad o weithio yn ein hysgol.

“Rhannodd yr Athrawes Dosbarth, Sian Harris, a minnau  ein gwybodaeth a phrofiadau o weithio yn Ysgol Cae’r Drindod. Roeddem ni’n gallu darparu hyfforddiant i rai swyddogion Heddlu Gwent a rhannu ein profiadau o bobl ifanc sydd wedi mynd ar goll yn flaenorol.”

Meddai Ian Elliott MBE, Pennaeth Ysgol Cae’r Drindod, “Rwy’n falch iawn fod Gary a Sian wedi gallu gweithio gyda Heddlu Gwent i ddatblygu protocol sy’n helpu i gadw plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn ddiogel. Byddwn i’n annog rhieni a gofalyddion i gofrestru yn y protocol hwn ac yn gobeithio na fydd angen iddyn nhw ei ddefnyddio, ond y byddai ar gael rhag ofn!”

Dywedodd dirprwy brif gwnstabl Amanda Blakeman, yr arweinydd cenedlaethol ar gyfer anabledd mewn plismona, “Rydym wedi ymroi i amddiffyn a thawelu meddwl pob aelod o’n cymunedau.

“Mae’r fenter hon wedi cael ei chynllunio i roi gwybodaeth hollbwysig i’n swyddogion mor gyflym â phosibl, os ydynt yn cael unrhyw alwad am wasanaeth sy’n ymwneud ag unigolyn ag anghenion dysgu ychwanegol.

“Mae’n bwysig ychwanegu y gall unrhyw aelod o’n cymunedau – rhieni, gofalwyr neu unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol eu hunain –  gofrestru ar gyfer Protocol y Drindod.

“Gan fod gwybodaeth am anghenion ychwanegol mor bwysig mewn cymdeithas gynhwysol, mae’n bwysig ein bod yn gallu rhoi cymorth i bawb yn ein cymunedau gyda’r parch maen nhw’n ei haeddu, yn arbennig ar adeg pan mae angen ein gwasanaethau ar bobl.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Ddysgu a Chyflawniad, “Mae’n wych bod y cydweithrediad hwn rhwng Ysgol Cae’r Drindod a Heddlu Gwent wedi arwain at fenter anhygoel a allai wneud byd o wahaniaeth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, pe bydden nhw byth mewn sefyllfa lle bydd angen iddyn nhw ffonio 999.

“Bydd Protocol y Drindod yn helpu i swyddogion nodi amgylchiadau personol yr unigolyn a chaniatáu iddyn nhw addasu’n briodol er mwyn sicrhau diogelwch y plentyn neu’r person ifanc ac eraill.”

Os ydych chi’n adnabod unigolyn a fyddai’n elwa o Brotocol y Drindod, yna llenwch y ffurflen isod a’i he-bostio at neurodiversity@gwent.pnn.police.uk

Generic Form (to follow)

Hawdd ei Ddeall

Erthygl original: Caerphilly – Cydweithio rhwng Ysgol Cae’r Drindod a Heddlu Gwent yn arwain at lansio menter arloesol

I lawrlwytho poster i hyrwyddo’r cynllun hwn, cliciwch ar y ddolen isod:

Protocol Y Drindod

Frequently Asked Questions (to follow)