Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Beth mae pobl awtistig yn ei feddwl am alcohol?

Mae Alcohol Concern a’r Ganolfan Ymchwil Gymhwysol i Awtistiaeth (CAAR) ym Mhrifysgol Caerfaddon eisiau gwybod mwy am beth mae pobl awtistig yn ei feddwl am alcohol. Sicrhau bod gwybodaeth a chefnogaeth ynglÅ·n ag alcohol yn cwrdd ag anghenion pobl awtistig yw ein nod ni.

Os ydych chi’n 16 oed neu’n henach na hynny ac yn awtistig (os oes gennych chi ddiagnosis ffurfiol neu beidio) gallwch chi ein helpu ni trwy ddweud wrthyn ni beth yw eich barn a’ch profiad chi.  Does dim ots os ydych chi’n yfed alcohol neu beidio, neu wedi ei yfed e o’r blaen – bydd y pethau rydych chi’n eu dweud yn ein helpu ni i helpu pobl awtistig i osgoi problemau alcohol yn y dyfodol.

Ddylai’r holiadur ddim cymryd mwy na 15 munud i’w gwblhau. Mae 26 chwestiwn i chi eu hateb ar raddfa o 1 i 5. Mae hefyd rai cwestiynau amdanoch chi (er enghraifft eich oedran a’ch rhyw) ac am os ydych chi’n yfed alcohol neu beidio.

Does dim rhaid i chi gymryd rhan, a gallwch dynnu allan o’r arolwg unrhyw amser heb esbonio. Bydd yr holl wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni yn cael ei chadw’n ddienw, yn gyfrinachol ac yn ddiogel.

I gymryd rhan yn yr arolwg, cliciwch yma. Gallwch chi wneud yr arolwg yn Saesneg os ydych chi eisiau.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cyn cymryd rhan, gallwch chi e-bostio aton ni yma caar@bath.ac.uk