Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru – Anhwylderau’r Sbectrum Awtistig – Cynullun cyflawni interim 2015 – 2016

Mae’r cynllun hwn yn dangos faint rydym wedi’i gyflawni a sut rydym yn parhau i helpu pobl ag awtistiaeth.

Yn y cynllun cyflawni interim, amlinellwyd y camau y byddwn yn eu cymryd yn 2015-16.

Rydym yn gweithio gyda grŵp cynghori arbenigol o randdeiliaid i adnewyddu’r cynllun gweithredu strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig. Caiff y cynllun newydd ei gyhoeddi yn 2016.

Crynodeb 2015

Mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rydym wedi gofyn i bobl ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr am eu profiadau wrth gael gwasanaethau a chymorth.

Mae’r adborth hwn wedi ein helpu i nodi’r bylchau yn y ddarpariaeth bresennol ac i amlygu lle dylid mynd i’r afael ag anghenion heb eu diwallu.

Rydym hefyd wedi canfod bod angen gwneud rhagor i:

  • wella gwasanaethau diagnostig, 
  • darparu cymorth ar gyfer materion emosiynol/ymddygiadol,
  • mynd i’r afael â materion ASD penodol  
  • gwella sgiliau bywyd – gan gynnwys gwell mynediad a gweithgareddau cymdeithasol a hamdden mewn cymunedau lleol.  

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i ddatblygu’r cynllun gweithredu ymhellach – a bydd ymgynghoriad yn dilyn yn 2016.