Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Yn ôl Canllawiau CG170 NICE: Autism in under 19s: support and management [www.nice.org.uk/guidance/cg170]

Dylid cynnig i bob teulu (gan gynnwys brodyr a chwiorydd) a chynhaliwr wybodaeth eiriol ac ysgrifenedig am eu hawliau i fynnu:

  • seibiannau byrion a mathau eraill o ofal seibiant;
  • asesiad ffurfiol o’u hanghenion nhw o ran iechyd y corff a’r meddwl a sut mae cael gafael arno.

Dylech chi gynnig asesu anghenion teuluoedd a chynhalwyr, gan gynnwys brodyr a chwiorydd, a nodi’r canlynol lle bo angen:

  • cymorth personol, cymdeithasol a theimladol;
  • cymorth i rôl cynhaliwr megis seibiannau a chynlluniau at raid;
  • cynllun gofalu am y plentyn/llencyn yn y dyfodol, gan gynnwys y pontio at wasanaethau i oedolion.

O nodi anghenion, dylech chi roi gwybodaeth, cynghorion, hyfforddiant a chymorth – yn arbennig pan fo angen y canlynol ar deulu/cynhaliwr:

  • cymorth i ddiwallu anghenion personol, cymdeithasol a theimladol plentyn/llencyn megis cyflawni gorchwylion personol, hel ffrindiau neu drafod rhywioldeb;
  • cymorth i drin plentyn/llencyn ar y cyd â phroffesiynolion gofal iechyd neu gymdeithasol.

Dadlwythiadau

Awtistiaeth: Canllaw i Rieni a Chynhalwyr yn dilyn Diagnosis