Daeth KR i Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gorllewin Cymru am gefnogaeth yn dilyn diagnosis. Ni fyddai KR yn gadael y tŷ ac felly cafodd ei asesiad diagnostig ei wneud gartref, gan na fyddai’n dod i apwyntiadau.
Nod KR oedd mynd am bryd o fwyd teuluol mewn bwyty Ddydd Calan. Dechreuodd y tîm weithio gyda KR fis Hydref gan ddechrau gyda chamau bach e.e. cerdded i’r car a dychwelyd i’r tŷ. Gweithiodd y tîm gyda KR i gwblhau dyddiadur gorbryder ar gyfer bob tro roedd yn gadael y tŷ. Ar yr ymweliad nesaf, fe wnaethant gerdded i ben y dreif, a pharhau i wneud pethau gwahanol gyda phob ymweliad. Fe wnaethant eistedd y tu blaen i’r bwyty roedd KR eisiau mynd iddo Ddydd Calan ac ar yr ymweliad dilynol, fe wnaethant fynd i mewn am goffi ac eistedd ar y bwrdd lle byddai’n eistedd.
Fe aeth KR i’w bryd o fwyd teuluol Ddydd Calan ac arhosodd yn y bwyty am awr, cyn dychwelyd adref. Yn ystod y Flwyddyn Newydd, mae wedi rhoi nodau newydd i’w hun, fel colli pwysau a cherdded 5 milltir bob dydd gyda’i fam. Mae KR hefyd yn ymgysylltu â’r prosiect Ymgysylltu i Newid, i edrych ar ddewisiadau cyflogaeth. Ers hynny, mae wedi ymgeisio am swydd yn Folly Farm.