Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Adlewyrchiad y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd 2020

Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd 2020

Y llynedd roedd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yng nghanol y dasg o hyrwyddo a chynnal y Gynhadledd Awtistiaeth Genedlaethol gyntaf yng Nghymru, fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd 2019. Arweiniodd misoedd lawer o baratoi a chyd gynhyrchu, o ran cynllunio a chynnal cynhadledd am ddim ar gyfer oedolion awtistig, at ddigwyddiad a ddathlwyd yn fawr. Oedolion Awtistig fu’n cadeirio’r Gynhadledd a chafodd amrediad o weithdai eu harwain gan oedolion awtistig, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Roedd pawb yn teimlo fod y Gynhadledd yn llwyddiant.

Mae blwyddyn yn gwneud gwahaniaeth mawr! Ar ddiwedd Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth 2020 roeddem yn awyddus i rannu rhai o uchafbwyntiau’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol dros y flwyddyn ddiwethaf. Drwy weithio’n agos gydag oedolion awtistig, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill rydym wedi:

Pan ofynnwyd beth oedd uchafbwynt eu blwyddyn, atebodd Wendy, “Dwi wastad wedi credu mewn gweithio gyda phobl. Fel tîm rydym wedi cyflawni llawer iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ond ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb y bobl awtistig, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol sydd wedi gweithio gyda ni i ddatblygu a darparu’r adnoddau, hyfforddiant, rhwydweithiau ayb. Felly uchafbwynt gwirioneddol i mi fu datblygu’r syniad o ‘Awtistiaeth Tîm’ – mae pawb yn cyfrif, a phawb yn cyfrannu.”

Roedd Sara yn cofio’r Gynhadledd fis Ebrill diwethaf, “Roeddwn yn eistedd yn y tu blaen yn ystafell y Gynhadledd yn Stadiwm Liberty ac fe wyliais ein prif siaradwr Emma Durman yn dechrau ei haraith. I ddechrau fe betrusodd ychydig ac yna daeth rhywbeth drosti ac fe ddechreuodd ar ei galwad i’r holl oedolion awtistig yn yr ystafell gynadledda. Roeddwn i yn llythrennol yn teimlo ‘ias' i lawr fy mraich ac fe edrychais ar ei chydweithiwr y Cyfarwyddwr Donna Sharland ac fe wenodd arnaf a gwenais innau arni hi…dyna oedd fy uchafbwynt gan mod i’n gwybod fod popeth yr oeddem wedi ei gynllunio yn dod ynghyd yn y foment honno. Roedd y wraig hon, a oedd wedi profi cymaint o frwydrau cyn ac ar ôl ei diagnosis o awtistiaeth yn llythrennol yn hedfan gyda'i haraith ysbrydoledig ac roedd gen i ran fechan i'w chwarae yn hynny.

Wendy Thomas, Arweinydd Proffesiynol Cenedlaethol dros Awtistiaeth

Sara Harvey, Arweinydd Strategol Cenedlaethol dros Awtistiaeth


Roedd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wrth eu bodd gyda pheth o'r adborth a roddwyd gan ein budd-ddeiliaid:

 

“Mae wedi bod yn anrhydedd i weithio gyda’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol. Maent wedi bod yn groesawgar, llawn parch ac yn bwysicach fyth wedi bod yn barod i dderbyn fy syniadau a fy safbwyntiau – hyd yn oed pan fo hynny wedi golygu fod pethau wedi bod yn fwy cymhleth, wedi cymryd mwy o amser neu wedi bod yn anodd yn logistaidd i’w cyflawni.

Nid yw fy mewnbwn erioed wedi teimlo yn rhywbeth symbolaidd ond yn rhywbeth hanfodol. Maent wedi gwerthfawrogi fy mewnbwn i a'r llais awtistig  – ac wedi ymdrechu i wella dealltwriaeth a’r weithred o dderbyn.

Nid ymateb peiriannol yw hwn, geiriau gwag caredig ond cwbl ddiffuant. Maent wedi rhoi grym i'm llais a lleisiau eraill yn hytrach na’u boddi gyda'u meddyliau a'u delfrydau eu hunain. Rwy'n falch o fod wedi gweithio'n agos gyda nhw ac rwy’n obeithiol ei fod yn gydweithrediad a fydd yn parhau ac yn tyfu i gwmpasu ystod helaeth o leisiau awtistig, mae fy mhrofiad gyda nhw yn fy sicrhau yn gyfan gwbl y bydd yn gwneud hynny. 

Hoffwn ddiolch iddynt am eu gwaith, eu cefnogaeth a’u hethos, sydd mor bwysig wrth i ni lywio’r angen enbyd am i leisiau awtistig gael eu clywed, eu rhannu a’u gwerthfawrogi yng Nghymru a thu hwnt. 

Diolch i chi i gyd yn bersonol a phroffesiynol am y diogelwch i rannu, cyfrannu ac i deimlo fy mod yn cael fy ngweld mewn byd lle rwyf yn aml wedi teimlo'n anweledig."

Emma Durman, Cyfarwyddwr, Autside

 

“Rydym wedi canfod fod gweithio gyda'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn brofiad hynod o gadarnhaol sy'n galluogi unigolion i wneud pethau.  Mae eu hymrwymiad i gydweithredu a chyd gynhyrchu i'w weld ymhob darn o waith maent yn ymrwymo i'w gwblhau. Mae rhoi eu llais awtistig yng nghanol eu gwaith wedi bod yn chwa o awyr iach yn ein cymuned. Rydym yn edrych ymlaen i gefnogi eu llwyddiannau yn y dyfodol."

Donna Sharland, Cyfarwyddwr Autside

 

“Byddai fy ngwaith fel Arweinydd Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig fwy neu lai yn amhosibl heb gefnogaeth y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol. Mae’r grŵp o Arweinwyr Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig yn ogystal â’r Tîm yn CLlLC yn enghraifft wych o sut mae gweithredu ar y cyd yn fwy effeithiol nac yn unigol. Yn unigol dim ond darn bach o’r pos sydd gennym.

Dim ond pan fo’r darnau i gyd yn cael eu huno y caiff y darlun ei ddatgelu."

Keith Ingram, Arweinydd Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig, Caerdydd a'r Fro