Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Teledu ASDinfoWales – Ffilm i Rieni a Gofalwyr

Mae’r ffilm hon wedi’i hanelu at rieni a gofalwyr sydd â phlentyn awtistig. Mae’n cynnwys amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys trafodaethau gyda rhieni/ gofalwyr, unigolion awtistig a gweithwyr proffesiynol. Cliciwch ar y fideo yr hoffech ei wylio isod, mae’r ffilm hon tua 58 munud.

Tra’n gweithio gyda’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar y ffilm Rhieni-Gofalwyr, roeddem i gyd yn teimlo ei bod yn bwysig adlewyrchu profiad rhieni a gofalwyr go iawn y gallai’r gwylwyr uniaethu a nhw, ac oddi yno roedd yn gam naturiol i gynnwys safbwynt pobl ifanc awtistig sy’n derbyn eu gofal. Rydym yn falch iawn o’r ffordd y mae’r ffilm wedi galluogi pobl i rannu eu straeon er mwyn helpu eraill yn yr un sefyllfa, a thrwy ychwanegu esboniad a chyngor amhrisiadwy gan arbenigwyr ac ymarferwyr yn y maes, a dod â hyn i gyd at ei gilydd mewn fformat teledu hawdd ei wylio, gobeithiwn ein bod wedi creu adnodd a fydd yn ysbrydoli rhieni a gofalwyr i chwilio am yr holl gymorth sydd ar gael ac i ddatblygu agwedd gadarnhaol ar gyfer y dyfodol, ar gyfer eu hunain ac ar gyfer y plant a phobl ifanc awtistig sydd yn eu gofal.”

– Emyr Jenkins, Injan

Hoffai’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ffilm hon, trwy ein helpu i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth a chaniatáu i ni rannu eu straeon yn y ffilm hon.