Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Yn ôl Canllawiau CG170 NICE,  Autism in under 19s: support and management [www.nice.org.uk/guidance/cg170]

Mae NICE wedi argymell na ddylai clinigwyr ddefnyddio’r driniaeth isod ar gyfer nodweddion craidd awtistiaeth:

  • Cyffuriau gwrthseicotig
  • Cyffuriau gwrthiselder
  • Cyffuriau gwrthgyffylsiwn
  • Trefn fwyta (megis osgoi glwten neu gasein)
  • Adborth niwrolegol neu hyfforddiant cymathu clywedol
  • Omega-3 (asidau brasterog ychwanegol)
  • Secretin
  • Celadu
  • Therapi ocsigen pwysedd uwch