Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent yn cynnal apwyntiadau wyneb yn wyneb yn ogystal â sesiynau galw heibio. Rydym hefyd yn cynnig apwyntiadau cyngor i’r rhai sy’n gofyn amdano.

Byddwn yn ymateb i alwadau ffôn ac e-byst rhwng 9.00am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Iau; 9.00am tan 4pm dydd Gwener.

I gysylltu â’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ffoniwch 01633 644143 neu e-bostiwch asdservice.abb@wales.nhs.uk

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: abuhb.nhs.wales/community-services/autism-service/

Dadlwythiadau

Gwent IAS - Virtual Autism Advice Sessions Poster