Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cynllun ardystio cyflogaeth i bobl awtistig

Nod y cynllun ar-lein hwn yw gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o anghenion unigolion ag awtistiaeth ymhlith y bobl sy’n eu cefnogi i ddod o hyd i gyflogaeth. Gallwch chi wylio’r e-ddysgu ar ffurf fideo, powerpoint neu PDF drwy glicio’r dolenni isod:

Ar ôl gwylio’r e-ddysgu, cliciwch ar y ddolen isod i fynd at y cynllun tystysgrif. O fewn y cynllun gofynnir i chi ateb cyfres o 20 cwestiwn.  Os byddwch chi’n ateb pob un o’r 20 cwestiwn yn gywir bydd tystysgrif bersonol yn cael ei chreu i chi ei lawrlwytho a’i hargraffu.  Os rhowch ateb anghywir, rhoddir y cyfle i chi geisio eto. Yn gyntaf gofynnir i chi roi rhoi manylion personol, gwybodaeth a gaiff ei defnyddio i fonitro defnydd y cynllun ledled Cymru.

Er mwyn cwblhau’r cynllun ardystiedig, mewngofnodwch neu cofrestrwch isod.

Os nad ydych mewn un o’r gwasanaethau a ganlyn dewiswch ‘Arall’ ar y maes isod sydd wedi’i labelu ‘Eich Sector yw…’

  • Cyflogaeth – gan gynnwys Cangen Canolfan Gwaith DWP yng Nghymru

Sefydliadau 'Ymwybodol o Awtistiaeth'

I weld y sefydliadau hynny sydd eisoes wedi cwblhau’r cynllun neu os ydych am gymryd rhan, cliciwch ar y ddolen gyswllt ganlynol.

Lawrlwythiadau

Cynorthwyo pobl awtistig i gael swyddi
Dod yn sefydliad / gwasanaeth sy’n Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth