Derbyniom gais am gefnogaeth gan unigolyn sydd wedi bod yn eu tŷ ac heb siarad gydag unrhyw un ar wahân i’w teulu agosaf ers nifer o flynyddoedd, oherwydd gorbryder cymdeithasol.
I ddechrau roeddynt yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu, ond aethant ymlaen i adeiladu atebion un gair dros y ffôn. Cafodd yr unigolyn gefnogaeth ôl ddiagnostig 1:1, ac chynyddodd eu hyder ddigon iddynt allu ymuno â’r Cwrs Ôl Ddiagnostig Ar-lein gydag oedolion awtistig eraill.
Erbyn y diwedd, roedd yr unigolyn yn teimlo’u bod yn gallu cymryd rhan yn y cwrs. Yna fe wnaethon nhw dderbyn cefnogaeth 1:1 gyda strategaethau cyfathrebu cymdeithasol, ac mae eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu cymdeithasol wedi tyfu bob wythnos. Bellach mae’r unigolyn wedi gallu cyflogi Cynorthwyydd Personol i’w cefnogi yn y gymuned.