Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cefnogaeth i reoli gorbryder a chael mynediad at gyflogaeth

Actions and outcomes

Bu Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru yn rhan o’r broses o asesu SK, ac yna cynigwyd cymorth ôl ddiagnosis i helpu i reoli gorbryder a chael mynediad at gyflogaeth. Roedd y cymorth yn cynnwys creu cymorthyddion cyfathrebu, gweithio ar strategaethau i reoli gorbryder, yn ogystal â chefnogi partner yr unigolyn i helpu i weithredu’r strategaethau a ddarparwyd.

 

Bellach mae’r unigolyn a’u partner mewn cyflogaeth. Mae SK yn defnyddio amserlen â strwythur ac hefyd yn rheoli eu gorbryder gan ddefnyddio’r strategaethau a ddarparwyd. Mae cymorthyddion cyfathrebu a strategaethau sgiliau cymdeithasol hefyd wedi eu rhoi yn eu lle i gefnogi SK o fewn y gweithle. Mae SK bellach yn gweithio fel derbynnydd, sydd yn gamp arbennig o ystyried fod cyfathrebu yn un o’r meysydd cefnogi a dargedwyd.

Feedback

“Diolch yn fawr iawn i chi a diolch am y gefnogaeth rydych chi wedi ei roi! Fyddwn ni ddim hyd yn oed yma oni bai amdanoch chi yn y lle cyntaf.”

Dywedodd SK eu bod yn hapus a bod llawer llai o straen ariannol oherwydd eu bod eu dau mewn cyflogaeth. Dyma swydd gyntaf yr unigolyn, ac mae’r gefnogaeth hefyd wedi effeithio yn gadarnhaol ar eu perthynas gyda’u partner.

Lessons Learned

Gall cefnogi unigolion gyda datblygu sgiliau allweddol helpu i leihau anawsterau mewn cyflogaeth ac mewn lleoliadau cymdeithasol eraill. Mae’r achos hwn yn dangos y potensial sydd gan unigolion, unwaith fydd cymorth wedi ei ddarparu, a’u bod yn cael y cyfle i gyflawni eu huchelgais.

Information

n/a
Local Authority:
Anhysbys
n/a
Categories