Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Gweithio gyda Willow

Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi ymrwymo i gydweithio gydag unigolion awtistig, rhieni/ gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ar draws Cymru. Roeddem yn ddigon ffodus i sgwrsio gyda Willow Holloway dros y we yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol i weld sut roedd yn dod yn ei blaen, i glywed mwy am y gwaith eiriolaeth y mae wedi bod yn ei arwain dros y blynyddoedd diwethaf, a sut mae hyn wedi parhau, er gwaethaf COVID-19. Mae Willow wedi cydweithio gyda’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar nifer o brosiectau, gan gymryd rhan yn fwyaf diweddar fel aelod o Dîm Awtistiaeth Rhithwir Cymru Gyfan (a sefydlwyd gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ym Mawrth 2020) sy’n anelu i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i bobl awtistig a’u teuluoedd yn ystod cyfnod clo COVID-19 a’r dychwelyd wedi hynny i “normal newydd”.

Cwrdd â Willow!

Mae Willow yn eiriolwr awtistig ysbrydoledig ac yn ymgynghorydd gyda phrofiad byw. Hi yw’r Cadeirydd Gweithredol a’r Arweinydd Strategol ar gyfer Autistic UK yng Ngogledd Cymru, lle mae nawr wedi ei lleoli, ac mae wedi bod yn Is Gadeirydd i Fwrdd Anabledd Cymru ers 2016. Derbyniodd Willow ddiagnosis hwyr o awtistiaeth yn 44 oed ac yma mae’n sôn am yr effaith y mae derbyn y diagnosis wedi ei gael ar ei bywyd.

Pam cafodd y ffilm ei chreu?

“Gweithio gyda Willow” yw’r ail ffilm mewn cyfres y mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn ei gynhyrchu (y ffilm gyntaf yn y gyfres oedd Dod i adnabod Gerraint), lle rydym yn gofyn i bobl awtistig beth yr hoffent i rieni/ gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ei wybod am awtistiaeth. Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn parhau i gynhyrchu straeon digidol i ddathlu llwyddiannau unigolion awtistig ar draws Cymru. Rydym hefyd yn anelu i ganfod gan weithwyr proffesiynol, sy’n gweithio mewn gwahanol wasanaethau, pa gefnogaeth sydd ar gael i bobl awtistig yng Nghymru er lles iddynt.