Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Fideos

1. Ffilmiau Rhieni a gofalwyr

ASDinfoWales TiFi

Mae’r ffilm yma’n archwilio awtistiaeth drwy lais pobl awtistig, rhieni sy’n gofalu a gweithwyr proffesiynol.

Byw gydag awtistiaeth

Mae’r ffilm hon yn dangos bywyd bob dydd ystod o bobl ag awtistiaeth.

Fideos awtistiaeth i rieni a gofalwyr

Mae’r ffilmiau hyn yn cynnig cipolwg ar awtistiaeth a chyngor ymarferol i rieni a gofalwyr.

2. Ffilmiau hyfforddiant addysg

Lleoliadau blynyddoedd cynnar

Nod y cynllun yw cynyddu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth am awtistiaeth i’r rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

Teifi a’i Ffrindiau

Mae’r ffilm animeiddiedig fer hon wedi cael ei datblygu i ddangos i blant ifanc sut i fod yn garedig a dangos goddefgarwch gan dderbyn eu cyfoedion ag anghenion ychwanegol.

Ysgol Gynradd – Hyfforddiant Staff Athrawon

Cynllun hyfforddi staff addysgu a chynllun ardystio.

Hyfforddiant Staff Athrawon – Staff Cefnogi Dysgu

Cynllun wedi’i ardystio a ffilm hyfforddi i staff Cymorth Dysgu.

Ysgol Uwchradd

Cynllun wedi’i ardystio a ffilm hyfforddi i staff Addysgu a staff Cymorth.

Gwers Sgilti

Ffilm hyfforddi ac addewid i ddisgyblion a chymheiriaid ymrwymo iddo.

Addysg Bellach

Beth yw Awtistiaeth? Ffilm hyfforddi Addysg Bellach sy’n cynnig gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da wrth i ni ddilyn taith myfyrwyr yn y coleg.

Dysgu Seiliedig ar Waith

Beth yw Awtistiaeth? Ffilm hyfforddi Dysgu Seiliedig ar Waith, sy’n darparu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da wrth i ni ddilyn taith dau ddysgwr sydd wrthi’n cwblhau lleoliadau dysgu yn y gwaith.

3. Ffilmiau Cyflogaeth

Ffilm Hyfforddiant Cyflogaeth

Ffilm i gynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o anghenion unigolion awtistig ymysg y bobl hynny sy’n eu helpu i sicrhau cyflogaeth.

4. Podlediad y Cod Ymarfer Awtistiaeth

5. Straeon Digidol

6. Sesiynau Cymuned Ymarfer

7. Cynlluniau / adnoddau / ffilmiau hyfforddi eraill

Beth yw Awtistiaeth?

Ffilm a ddyluniwyd i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth, sy’n ategu ein Cynllun Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth.

Weli Di Fi?

Rhan o gynllun codi ymwybyddiaeth a lansiwyd i annog cymunedau yng Nghymru i ddod i ddeall a derbyn awtistiaeth.

Y Parti Pen-blwydd – AMLWG

Mae ffilm wedi’i dylunio i helpu gweithwyr proffesiynol rheng flaen i adnabod arwyddion awtistiaeth mewn plant. Gwnaethom ei dylunio i fod yn addas i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn addysg, gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, fel ychwanegiad at sesiwn hyfforddi.