Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Gall dod yn barod a gadael y tŷ yn y bore fod yn straen i deuluoedd plant ag ASD. Yn aml, gall yr holl newidiadau fod yn anodd iawn i blentyn ag ASD, a gall rhieni sy’n rhuthro er mwyn sicrhau bod y teulu wedi golchi, gwisgo, cael bwyd ac ar amser i’r ysgol neu’r gwaith achosi mwy o bryder i bawb.

Mae plant ag ASD yn ymdopi’n well gyda mwy o strwythur a threfn reolaidd. Wrth gynllunio ymlaen llaw a gweithredu rhai ymagweddau ymddygiadol, bydd y plentyn (a chi fel rhiant o ganlyniad i hynny) yn cael boreau â llai o straen.

Gall y canlynol helpu:

  • Paratowch bopeth y gallwch y noson gynt. Rhowch gynllunwyr y bore allan, paratowch becynnau bwyd, paciwch fagiau ysgol a chael dillad ysgol yn barod.
  • Gwnewch restr o waith y bore a rhowch nhw mewn cynllun trefnus. Gwnewch nhw yn yr un drefn a’u ticio wrth i chi eu cwblhau.
  • Dihunwch eich plentyn 10 munud yn gynt nag arfer a’u gadael i ddihuno’n llawn cyn gofyn iddynt wneud unrhyw beth.
  • Defnyddiwch lais tawel, gall gweiddi neu ddefnyddio tôn uwch achosi pryder i blentyn ag ASD, gall hyn arwain at ymddygiad heriol fel gwrthod neu strancio.
  • Defnyddiwch gynlluniwr lluniau ar gyfer eich plentyn, i’w helpu i gwblhau’r drefn foreol.
  • Cyfrwch i lawr, paratowch y plentyn am weithgaredd fel brwsio dannedd trwy roi rhybudd o 5, 3 ac 1 munud.
  • Peidiwch cymryd rhan mewn dadleuon, dywedwch beth rydych yn ei ddisgwyl a pheidiwch ymateb i ‘pam?’ ‘5 munud arall?’ ac ati.
  • Byddwch yn glir ac yn gryno, dywedwch yr hyn yr ydych yn ei olygu. Mae plant ag ASD yn cael anhawster gydag iaith drosiadol a chyfathrebu nad yw’n llafar. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn defnyddio’r rhain i roi cyfarwyddiadau i’ch plentyn.
  • Rhannwch ‘weithgareddau wedi eu grwpio’ yn rhai llai os oes angen. Bydd llawer o blant yn cael anhawster yn dadansoddi neu drefnu’r is-dasgau sy’n gysylltiedig â ‘gwisgo dillad’ neu ‘dacluso dy ystafell’, felly rhannwch nhw yn dasgau bach gan ddefnyddio cardiau llun neu restrau.
  • Edrychwch am yr elfennau cadarnhaol a gwobrwywch nhw.
  • Defnyddiwch siart wobrwyo i annog ymddygiad mwy priodol.
  • Peidiwch swnian, peidiwch dwrdio, peidiwch colli eich tymer – anadlwch yn ddwfn a chanolbwyntiwch ar yr elfennau cadarnhaol.
  • Yn olaf, peidiwch â rhoi’r bai ar bobl eraill. Peidiwch defnyddio bygythiadau fel ‘Byddaf yn ffonio dy athrawes’, ‘Ni fydd Santa’n dod am nad wyt yn ymddwyn yn dda’, ni fyddant yn helpu’r ymddygiad a gallant greu dryswch mawr i blentyn ag ASD.