Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cefnogi dyn ifanc i dreulio mwy o amser yn y gymuned a meithrin cyfeillgarwch.

Actions and outcomes

Dyn 25 oed yw B sydd â diagnosis o awtistiaeth. Ar hyn o bryd mae’n byw gartref gyda’i rieni yng Nghaerfyrddin. Cyn i B gael ei atgyfeirio i’r gwasanaeth am gefnogaeth, roedd yn ynysu ei hun yn gynyddol yn ei gartref a phrin iawn y byddai’n gadael ei dŷ. Roedd wedi bod yn y sefyllfa hon ers nifer o flynyddoedd, ac roedd o a’i deulu ar ben eu tennyn. Roedd B wedi bod yn cyrchu gwasanaethau eraill ond oherwydd diffyg ymgysylltiad, roedd y cysylltiad wedi dod i ben.

Pan gyfarfûm ag B yn yr apwyntiad cyntaf, roedd yn ei gragen yn ofnadwy, roedd yn amlwg yn bryderus ac yn cael trafferth cymryd rhan mewn sgwrs. Fe wnaethom y “Seren Sbectrwm” gyda’n gilydd – offeryn mesur canlyniadau a ddefnyddir i dynnu sylw at gryfderau unigolyn a meysydd o anawsterau lle byddai angen cefnogaeth. Y maes blaenoriaeth cyntaf a amlygwyd oedd ceisio cynyddu amser B yn y gymuned. Yr ail faes cymorth a amlygwyd oedd cefnogi B gyda’i sgiliau cymdeithasol.

Ar ôl pythefnos o ymyriadau, dechreuodd B ymlacio yn weledol yn fy nghwmni a dechrau derbyn strategaethau i’w treialu. O fewn ychydig wythnosau, roedd yn mynd allan gyda’i fam yn y car i archfarchnadoedd ac ar yr adegau prin roedd hyd yn oed yn mynd i mewn i’r siop i brynu bwyd. Mae darparu strategaethau ymdopi ar gyfer B wedi ei rymuso i gael mynediad i leoliadau na fyddai erioed wedi cael mynediad atynt o’r blaen.

Yna cafodd B gyfle i fynychu Gweithdy Ôl-Ddiagnostig IAS. Yn ystod y sesiwn 4 wythnos ni chymerodd ran mewn sgyrsiau i ddechrau ond mynegodd y dilysiad ei fod yn teimlo bod unigolion awtistig eraill yn wynebu’r un anawsterau ag ef. Yn ystod sesiwn 3 a 4, dechreuodd gychwyn sgwrs gyda’i gyfoedion a mynegodd dristwch fod y gweithdy wedi dod i ben. Yng ngeiriau B, “Rydw i wir yn colli’r gweithdy PDW, roeddwn i’n edrych ymlaen ato bob wythnos.”

Mae B bellach yn mynychu’r Fforwm Awtistiaeth yng Nghaerfyrddin lle mae’n aelod gwerthfawr o’r grŵp. Mae bellach yn gwneud ei drefniadau ei hun i fynychu ac mae’n ymgysylltu â’r mynychwyr eraill – rhywbeth na fyddai erioed wedi’i wneud o’r blaen. Wrth fynychu’r fforwm hwn, darganfuwyd bod gan B ddiddordebau tebyg i ychydig o’r mynychwyr eraill a oedd o oedran tebyg iddo, pêl-droed yn bennaf.

 

Ers i hyn gael ei amlygu, creodd B a dau ddyn ifanc arall eu grŵp cymdeithasol eu hunain gyda chefnogaeth gennyf i a chyd-weithiwr. Maent bellach yn cwrdd yn yr ale fowlio unwaith y mis lle maent yn chwarae pŵl ac yn cael gêm o fowlio. Mae’r sgwrs rhwng y tri chyfranogwr yn llifo ac mae B i’w weld yn fwy cyfforddus. Nid yn unig y mae B yn mynychu’r fforwm, grŵp cymdeithasol, ac wedi mynychu’r PDW, mae bellach yn mynychu’r gampfa unwaith yr wythnos lle mae’n gweithio ar adeiladu ei hunan-barch a’i hunaniaeth.

Mae rhagolwg B ar fywyd wedi newid yn llwyr. Erbyn hyn, gall weld bod ganddo ddyfodol a’i fod yn cael y gefnogaeth a’r “offer” priodol sydd eu hangen fel y gall fyw bywyd cyflawn yn llwyddiannus. Mae’n teimlo’n fwy hyderus ynddo’i hun ac mae adborth gan ei rieni wedi bod yn anhygoel.”

Feedback

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’ch tîm am y gwaith yr ydych chi’n ei wneud. Rwy’n teimlo bod hwn yn wasanaeth sydd mor angenrheidiol i bobl ar y sbectrwm awtistiaeth.
Mae fy mab wedi dysgu cymaint amdano’i hun yn yr amser byr y mae James wedi bod yn gweithio gydag o.
Er ei bod hi’n ddyddiau cynnar rwy’n teimlo’n hyderus nawr ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir yn dilyn blynyddoedd lawer o siomedigaethau gan wasanaethau eraill nad oedd ‘cweit’ yn deall.
Roedd y gweithdai ôl-ddiagnostig yn amhrisiadwy ac mae B yn dweud ei fod yn ‘colli mynd’. Diolch yn fawr iawn i James ac Anwen a’r cyfranogwyr.
Diolch i’ch gwasanaeth – rydym ni fel teulu nawr yn edrych ymlaen at y dyfodol ac i weld B yn symud ymlaen ymhellach.
Diolch yn fawr i James Etheridge am eich ymdrech, eich proffesiynoldeb a’ch personoliaeth.”

Lessons Learned

Gyda’r gefnogaeth gywir, gellir cyflawni nodau, a gellir gwella bywydau unigolion a’u troi o gwmpas.

Information

n/a
Local Authority:
Sir Gâr
n/a
Categories