Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Archwilio Cyflogaeth

Ar Ragfyr 3ydd, 2021, cynhaliodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ddigwyddiad cyflogaeth rhithwir am ddim o’r enw Archwilio
Cyflogaeth: Sut i ddod o hyd i’r swydd neu’r yrfa sy’n iawn i chi a’i chadw
. Roedd y digwyddiad ar gyfer pobl Awtistig o oedran gweithio.

Cyd-gynhyrchwyd y digwyddiad gyda grŵp cynghori o 13 o bobl Awtistig, a fynegodd ddiddordeb mewn bod yn rhan o ddatblygiad y
digwyddiad trwy ein harolwg Digwyddiad Cyflogaeth (darllenwch ganlyniadau’r arolwg yma). Gwnaeth y grŵp cynghori bob penderfyniad allweddol am y digwyddiad, gan gynnwys pynciau’r gweithdai, hwyluswyr y gweithdai, fformat y digwyddiad ac enw’r digwyddiad.

Datblygwyd y digwyddiad hefyd gyda grŵp cynllunio strategol, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a sefydliadau
addysg uwch, awdurdodau lleol, sefydliadau Trydydd sector, a chynlluniau cyflogaeth â chymorth ledled Cymru.

Y pynciau gweithdy a drafodwyd yn y digwyddiad oedd:

  • Cyfathrebu eich anghenion i’ch cyflogwr
  • Deall eich hawliau cyflogaeth a’ch cyfrifoldebau fel gweithiwr yn y gweithle
  • Rheoli eich iechyd meddwl a’ch lles yn y gwaith
  • Gweithio’n Hyblyg
  • Cyfweliadau
  • Adnabod eich sgiliau a’ch diddordebau a swydd neu gyrfa sy’n iawn i chi 

 

Nod y digwyddiad oedd darparu awgrymiadau ymarferol ynghylch y pynciau uchod. Gyda’r gobaith wrth wneud hynny o rymuso pobl Awtistig nid yn unig i ddod o hyd i’r swydd cywir iddyn nhw, ond i gynnal gyrfa hir ac ystyrlon.

Recordiwyd y digwyddiad ac mae ar gael i’w weld isod.

Dyluniwyd y digwyddiad i fod yn addas ar gyfer pobl Awtistig ar unrhyw gam o’u taith gyflogaeth. Mae’r recordiadau gweithdy a’r adnoddau isod yn addas ar gyfer y rhai nad ydyn nhw mewn cyflogaeth a’r rhai sydd mewn cyflogaeth.

Rhan Un – Croeso a chyd-destun

Siaradwyr yn cynnwys Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol & Y Cynghorydd Emlyn Dole, Llefarydd Cyflogaeth a Sgiliau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Rhan Dau Clipiau fideo
o’r grŵp ymgynghori

Rhan Tri – Sesiynau gweithdy

Cyfathrebu eich anghenion i’ch cyflogwr – Autistic Minds

Bydd cyflwyniad y gweithdy hwn ar gael yn fuan.

Deall eich hawliau cyflogaeth a’ch cyfrifoldebau fel gweithiwr yn y gweithle – Disability Wales

Bydd cyflwyniad y gweithdy hwn ar gael yn fuan.

Rheoli eich iechyd meddwl a’ch lles yn y gwaith – Autism Wellbeing

Gweithio’n Hyblyg – Careers Wales

Cyfweliadau – All Wales People First

Adnabod eich sgiliau a’ch diddordebau a swydd neu gyrfa sy’n iawn i chi – Working Wales

 Rhan Pedwar – Sesiwn glo

Bydd sydd nesaf?

Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol eisiau parhau i rymuso a chefnogi pobl Awtistig ac rydym yn cynllunio i ddechrau cynnal sesiynau rhannu gwybodaeth rithwir ar bynciau allweddol sy’n ymwneud â chyflogaeth yn gynnar y flwyddyn nesaf. Bydd sesiynau rhannu gwybodaeth ar gyfer pobl Awtistig a sesiynau rhannu gwybodaeth i gyflogwyr ar sut i sicrhau bod eu prosesau recriwtio ac amgylchedd gwaith yn gynhwysol ac yn hygyrch i bobl Awtistig.

Mae’r Tîm hefyd yn bwriadu cynnal digwyddiad y flwyddyn nesaf sy’n dwyn ynghyd bobl Awtistig a chyflogwyr.

Yn hanfodol, rydym am i’r gwaith hwn gael ei siapio gan leisiau Awtistig fel ei fod yn ddefnyddiol ac yn hygyrch i bobl Awtistiaeth. Os hoffech chi fod yn rhan o lunio a datblygu unrhyw ran o’r gwaith a grybwyllir uchod, rhowch wybod i ni trwy lenwi’r ffurflen ymgysylltu yma.

Chwilio am lawrlwythiadau?

Cliciwch y botwm isod i weld y lawrlwythiadau sydd ar gael ar y dudalen we hon.

Lawrlwythiadau

Llyfryn Adnoddau Archwilio Cyflogaeth
Llyfryn Adnoddau Archwilio Cyflogaeth (Cefndir Plaen)