Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Dod i Adnabod Gerraint

Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi ymrwymo i weithio drwy gyd-gynhyrchiad gydag unigolion awtistig, rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ar draws Cymru.  Dim ond un enghraifft o nifer yw Gerraint o rywun rydym wedi cyfarfod a gweithio gydag a gyda phwy sy’n fodel rôl ardderchog ar gyfer oedolion ifanc awtistig.  Mae profiad Gerraint a’i deulu yn cynnig enghraifft ardderchog o achos lle mae gwasanaethau statudol a’r trydydd sector wedi cyfuno’n effeithiol i wella lles plentyn ifanc awtistig a’i alluogi i gyrraedd ei botensial llawn wrth drawsnewid i fod yn oedolyn.

Cwrdd â Gerraint!

Aeth Gerraint o fod yn analluog i siarad fel plentyn ifanc, i gyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol ar draws Gymru ac mae wedi sicrhau gwaith fel Llysgennad Arweiniol ar gyfer cynllun cefnogaeth Engage to Change, a ddarparwyd mewn partneriaeth rhwng Anableddau Dysgu Cymru, Agoriad Cyf, Rhoi Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Prifysgol Caerdydd, Cyflogaeth a Gefnogir ELITE ac mewn cydweithrediad â Phrosiect DFN SEARCH.  Ariennir y prosiect gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Pam cafodd y ffilm ei chreu?

Crëwyd y ffilm wedi i Gerraint Jones Griffiths gwblhau lleoliad gwaith gyda’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn ystod Gaeaf 2019. Yn ystod y lleoliad hwn, gwnaeth Gerraint gyflwyniad mewn diwrnod hyfforddiant a hwyluswyd gan y Tîm, a’r adborth a gafwyd oedd bod hanes Gerraint mor llawn ysbrydoliaeth a gwybodaeth dylid ei rannu’n ehangach. Bydd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn parhau i gynhyrchu hanesion digidol fel yr un hon i ddathlu llwyddiannau unigolion awtistig ar draws Cymru yn y dyfodol. SYLWCH ffilmiwyd hyn sawl wythnos yn ôl ac mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn cadw’n bendant at ganllawiau a mesurau diweddaraf y llywodraeth ynglŷn ag ymbellhau cymdeithasol.

Testamentau

Dywedodd Gerraint Jones-Griffiths, Llysgennad Arweiniol, Engage to Change:  “Unwaith eich bod wedi cael diagnosis, yr un person fyddwch chi ag oeddech chi cynt. Rydw i wir yn credu fod bod yn awtistig yn rhodd ac yn rhywbeth y dylech ei dderbyn a bod yn falch ohono. O’m safbwynt i, nid yw A’n sefyll am awtistiaeth, mae A’n sefyll am ‘achievement’!” Dywedodd Samantha Williams, Swyddog Cyfathrebu Ymgysylltu i Newid, Anabledd Dysgu Cymru:  “Mae Gerraint wedi bod yn rhagorol yn ei swydd fel Llysgennad Arweiniol ar gyfer y prosiect Ymgysylltu i Newid. Mae ei gyflwyniadau mewn digwyddiadau bob amser mor ddiddorol a difyr – mae wir yn berfformiwr! Mae’n gweithio’n galed i ledaenu’r gair y bydd, ac mae gan, bobl sydd ag anableddau dysgu neu awtistiaeth, swyddi gyda thâl.” Dywedodd Joe Powell, Prif Weithredwr Pobl Yn Gyntaf Cymru:  “Mae Gerraint wir yn ysbrydoliaeth i bobl ar y sbectrwm awtistiaeth ac yn llysgennad ar gyfer beth ellir ei gyflawni gyda’r ddealltwriaeth a’r gefnogaeth gywir.  Mae’n fraint cael ei adnabod ac rwy’n ei ganol a’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol am gynhyrchu’r ffilm wych hon.”