Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Mae’r cynghorion isod wedi’u seilio ar ganllawiau CG142 NICE: Autism in adults: diagnosis and managementhttp://www.nice.org.uk/guidance/cg142]

Ddylen ni atgyfeirio oedolion ar gyfer diagnosis?

Yn aml, bydd iechyd a bywyd cymdeithasol pobl a chanddynt anhwylderau’r sbectrwm awtistaidd yn wael.  Gallai asesu diagnostig wella eu bywydau ac arwain at ddefnyddio adnoddau iechyd yn fwy effeithlon.  Felly, dylid cynnig asesu diagnostig.

Pa arwyddion ddylai achosi i staff gofal sylfaenol atgyfeirio rhywun ar gyfer asesu o’r fath?

Dylech chi ystyried a oes anhwylder gan oedolyn pan fo’n amlygu o leiaf un o’r nodweddion isod:

Un o’r canlynol neu ragor:

  • anawsterau o ran trin a thrafod pobl;
  • anawsterau parhaol o ran cyfathrebu’n gymdeithasol;
  • amlygu’r un ymddygiad dro ar ôl tro, gwrthwynebu newid neu ychydig iawn o ddiddordebau.

At hynny:

Un o’r canlynol neu ragor:

  • problemau o ran cadw swydd neu astudio;
  • anawsterau o ran meithrin a chynnal cysylltiadau cymdeithasol;
  • hanes o ddefnyddio gwasanaethau iechyd y meddwl neu anableddau dysgu;
  • hanes o gyflwr niwroddatblygiadol megis anableddau dysgu ac anhwylder diffyg sylw ynghyd â gorfywiogrwydd.

 

Mae rhestr o arwyddion anhwylderau’r sbectrwm awtistaidd mewn oedolion ar waelod y dudalen.

Defnyddio dulliau asesu i ddod i benderfyniad am atgyfeirio

Rhywun a chanddo anabledd dysgu cymedrol neu ddim anabledd o gwbl: Dylech chi lenwi holiadur profion AQ10.  Os 6 neu ragor yw’r sgôr, dylech chi gynnig ei atgyfeirio ar gyfer asesu diagnostig.

[D.S. Gall holiadur AQ10 ddangos sgôr isel anghywir, yn arbennig wrth holi rhywun nad yw’n gwybod am ei gyflwr.  Os yw’r sgôr yn is na 6, a chithau’n amau cywirdeb hynny, dylech chi gynnig atgyfeirio’r claf ar gyfer asesu diagnostig].

Rhywun a chanddo anabledd dysgu cymedrol neu ddifrifol: Dylech chi gynnig ei atgyfeirio ar gyfer asesu diagnostig os oes dau o’r nodweddion canlynol neu ragor:

  • anawsterau o ran trin a thrafod pobl:
    • heb ymwneud â phobl gan amlaf (trwy sefyll draw, cadw pobl o hyd braich neu fod yn anarferol);
    • dim ond i ddiwallu anghenion yr aiff at bobl;
    • trin a thrafod pobl mewn modd cwbl ddiniwed neu unochrog.
  • heb ymateb i deimladau pobl eraill;
  • tueddu i ymddwyn yr un fath beth bynnag fo’r sefyllfa gymdeithasol;
  • heb amlygu llawer o gydymdeimlad;
  • cadw at drefn feunyddiol heb ei newid;
  • gwneud yr un peth dro ar ôl tro (megis siglo ei gorff a/neu chwifio ei ddwylo/bysedd) yn arbennig pan fo dan straen neu’n mynegi teimlad.

Pa wybodaeth sydd i’w chynnwys yn yr atgyfeiriad?

O atgyfeirio rhywun i’w asesu o ran anhwylderau’r sbectrwm awtistaidd, rhaid cynnwys y canlynol:

  • arwyddion a/neu nodweddion;
  • hanes ers plentyndod (lle bo’n hysbys);
  • hanes meddygol perthnasol;
  • canlyniadau asesiadau blaenorol;
  • sgôr holiadur AQ10 (os defnyddiwyd).

Dadlwythiadau

Ffurflen Atgyfeirio - Enghraifft
Taflen wybodaeth
Taflen wybodaeth (diwyg hawdd ei ddarllen)
AWTISTIAETH: Adnabod yr arwyddion
Poster arwyddion awtistiaeth – Plant rhwng 2 a 4½ oed)
Poster arwyddion awtistiaeth – Plant a chyfnod cynnar glasoed
Poster arwyddion awtistiaeth – Oedolion a chyfnod diweddar glasoed
Enghraifft Ffurflen Atgyfeirio ar gyfer Asesiad Diagnostig