Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Mae llawer o blant yn datblygu pryderon am adael eu rhieni neu eu gofalwyr ar adegau. Maent yn cynhyrfu cryn dipyn pan fydd rhieni’n gadael, neu ar adegau o wahanu fel mynd i’r ysgol neu ofal plant. Mae’r ymddygiad yn aml yn dechrau yn dilyn newid fel dechrau ysgol newydd neu symud tŷ neu weithiau colled neu brofedigaeth.

I ddechrau, mae rhieni’n aml yn ymateb i’r ymddygiad hwn trwy roi cysur neu osgoi gadael y plentyn rhag ofn y byddant yn achosi mwy o ofid iddynt. Weithiau, mae’r broblem yn cael ei datrys, ond i rai, mae’r ymddygiad yn gwaethygu a gall arwain at broblemau yn y cartref gyda’r plentyn angen sicrwydd parhaus bod y rhiant yn agos, neu’n gwrthod cysgu ar ei ben ei hun.

Pethau a allai helpu:

  • Pennwch amser ar gyfer siarad am bryderon, a pheidiwch â’u trafod ar adegau eraill.
  • Rhowch ganmoliaeth am ymdopi heb sicrwydd, hyd yn oed am gyfnodau byr iawn
  • Ar adegau o wahanu, dylech ymddwyn yn union yr un peth â phe na bai eich plentyn yn ofidus (e.e. dywedwch hwyl fawr, gwenwch ac ewch).
  • Defnyddiwch gynllunwyr lluniau i ddarparu arwyddion gweledol i’ch plentyn, dylech gynnwys lluniau o adael, yna’r gweithgaredd, yna chi’n dychwelyd.
  • Peidiwch cosbi, siarad yn ormodol neu ofyn am esboniadau am yr ymddygiad.
  • Cynlluniwch raglen wedi ei graddio o adael eich plentyn, dechreuwch gyda 10 munud ac ychwanegwch at hynny.
  • Os oes problemau amser gwely, dechreuwch weithio ar y rhain. Cynorthwywch eich plentyn i allu mynd i’r gwely a setlo eu hunain i fynd i gysgu heb eich bod chi yno.
  • Byddwch yn ymwybodol y gall y teledu weithiau gyfrannu at yr ymddygiad hwn. Gall gwylio straeon newyddion am bobl sy’n brifo pobl eraill hybu pryderon am rieni’n cael eu niweidio.
  • Dylech gydnabod y gallai eich plentyn ddefnyddio ffyrdd eraill o sicrhau eich bod yno fel gofyn am ddiodydd neu ddefnyddio’r tŷ bach yn ystod amser gwely.
  • Cofiwch fod symptomau corfforol i bryder. Mae teimlo’n sâl, yn flinedig neu’n benysgafn yn symptomau pryder cyffredin felly pan fydd eich plentyn yn dweud ei fod yn teimlo’n sâl, gall fod yn dweud y gwir.
  • Gofynnwch am gymorth. Gall ymdrin â phlentyn pryderus fod yn straen, gofynnwch am gymorth gan weithwyr proffesiynol, rhieni eraill neu aelodau o’r teulu.
  • Peidiwch teimlo’n euog, mae hyn yn digwydd i lawer o blant ac mae llawer o rieni’n teimlo’n rhwystredig yn ymwneud â hyn.