Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Dysgu Plant Awtistig i fynd i’r Toiled

Wrth ddysgu plentyn ag ASA i ddefnyddio’r poti neu fynd i’r toiled, bydd angen strwythur ychwanegol a chiwiau gweledol yn ogystal â gwobr bosibl nad yw’n ymwneud â rheolau cymdeithasol.

Mae’n well gan blant ag ASA lynu at drefn a fydd yn rhoi sicrwydd iddynt a gadael iddyn nhw ragweld beth fydd yn digwydd nesaf. I sefydlu trefn ar gyfer defnyddio’r poti/mynd i’r toiled, bydd angen i chi ddefnyddio ymadrodd neu arwydd bod angen i’r plentyn ddefnyddio’r poti/toiled – dylai hwn fod yr un fath â’r un a ddefnyddir gartref. Gallai fod ar ffurf carden â llun o’r poti arno, er enghraifft, neu dewiswch ymadrodd (gwnewch yn siŵr fod pawb yn hapus i’w ddefnyddio gyntaf) megis ‘amser poti’ neu ‘amser toiled’.

Bydd aml i ddamwain – peidiwch â dwrdio’r plentyn na thalu gormod o sylw. Glanhewch e, byddwch yn bositif a rhowch gynnig arall arni.

Cyn gynted ag y bydd y plentyn yn gwneud pi-pi neu pw yn y toiled/poti, rhowch wobr iddo. Yn achos rhai plant, bydd clod megis ‘da iawn’ neu seren ar siart yn ddigon boddhaol. Ond yn achos plant ag ASA nad yw’n ymateb i’r math hwn o glod, efallai y bydd angen gwobr gorfforol, megis gwneud gweithgaredd byr y maent yn ei fwynhau.

Wrth i amlder y llwyddiant a’r gwobrwyo gynyddu, bydd y plentyn yn dysgu’r hyn a ddisgwylir ganddo. Bydd plant sy’n medru cyfathrebu’n dweud neu’n dangos i chi pan mae angen y poti/toiled arnyn nhw. Yn achos plant eraill, efallai y bydd gofyn parhau i annog y plentyn i ddefnyddio’r toiled/poti ar adegau rheolaidd nes ei fod yn medru cyfathrebu’r angen wrthoch chi.

Mae’n eithaf pwysig i ddefnyddio taflen luniau, a cheisiwch ddefnyddio’r un lluniau â’r rhieni a’r cynhalwyr. Dylid argraffu lluniau neu ddelweddau i gynrychioli trefn y digwyddiadau. Dylid cadw’r daflen wrth ymyl y toiled/poti lle gall y plentyn ei gweld yn glir.

Gallwch greu a lawrlwytho cynlluniwr lluniau yma ar gyfer hyfforddiant toiled/poti am ddim yma:  Cardiau lluniau plant – Awtistiaeth Cymru