Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Defnyddio Siart ABieC i Nodi Sbardunau Ymddygiad Heriol mewn Plant ag Awtistiaeth

Er mwyn nodi sbardunau neu bwrpas ymddygiad, bydd angen i chi gofnodi ymddygiad a’r hyn sy’n digwydd cyn ac ar ôl hynny dros gyfnod o 1 – 2 wythnos.

Bydd angen i chi ddefnyddio siart ABieC i gofnodi ymddygiad, gellir lawrlwytho siartiau yn www.ASDinfoWales.co.uk/advice -sheets, neu gallwch wneud un eich hun gan ddefnyddio’r penawdau hyn:

Dyddiad ac amser

Rhagflaenydd (beth sy’n digwydd cyn yr ymddygiad)

Ymddygiad

Canlyniad

Rhagflaenydd(yr hyn sy’n digwydd cyn hynny) — Dyma’r sbardun am yr ymddygiad yn aml. Gall hyn weithiau fod yn syml fel rhywun yn dweud ‘na’ i gais ond mewn unigolion ag ASD gall fod yn fwy anodd ei adnabod am fod yr achos yn gallu ymwneud â materion synhwyraidd fel synau uchel neu synau penodol neu’n ymwneud â’r angen am arferion rhagweladwy. Mae’n bwysig felly eich bod yn cofnodi’r holl wybodaeth berthnasol yn cynnwys amser, yr amgylchedd, yr hyn a ddywedwyd, pwy oedd yn bresennol ac ati.

Ymddygiad – Yn yr adran hon bydd angen i chi gofnodi manylion yr ymddygiad, heb unrhyw ragfarn na rhagdybiaethau. Disgrifiwch yr ymddygiad yn hytrach na dod i gasgliadau gan fod llawer o unigolion ag ASD yn cael anhawster yn mynegi eu teimladau mewn ffordd briodol. Er enghraifft, gall ofn r ymddangos fel pryder ond gallai hefyd ymddangos fel ymddygiad ailadroddus neu ymddygiad ymosodol.

Canlyniad (yr hyn sy’n digwydd wedi hynny) — Yn aml gall y canlyniad neu’r effaith roi syniad o’r hyn y mae’r plentyn yn ei deimlo, trwy ddangos beth mae’r plentyn yn ceisio ei gyflawni. Gall canlyniadau weithiau atgyfnerthu’r ymddygiad. Cofnodwch yn union beth sy’n digwydd yn cynnwys yr hyn y mae’r plentyn yn ei wneud a’r hyn y mae unrhyw blant neu oedolion eraill yn ei wneud.