Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Datblygu Rhaglenni Ymddygiad ar gyfer Plant ag Awtistiaeth

Cyn dechrau unrhyw ymagwedd i ymyrryd yn uniongyrchol mewn ymddygiad heriol y mae plant ag ASD yn ei arddangos, mae’n hanfodol eich bod yn sicrhau nad oes diben priodol i’r ymddygiad ac nad yw’n cael ei sbarduno gan faterion sy’n gysylltiedig â symptomau craidd ASD – gweler y taflenni cyngor ‘adnabod sbardunau ymddygiad heriol’ a ‘deall achosion ymddygiad heriol’ yn www.AutismWales.org/cy/rhieni-a-gofalwyr/gwybodaeth-ar-gyfer-plentyn-awtistig/taflenni-cyngor/.

Os nad yw’r ymddygiad yn briodol neu’n ddymunol gall fod angen i chi ddechrau rhywfaint o waith yn ymwneud â newid yr ymddygiad.

Wrth weithredu ymagwedd tuag at ymddygiad, cofiwch yr egwyddor.

  • Os ydych yn gwobrwyo ymddygiad byddwch yn gweld mwy ohono

Mae hyn yn gweithio i ymddygiad cadarnhaol a negyddol, er enghraifft os byddwch yn gwobrwyo ymddygiad cadarnhaol â rhywbeth da, bydd y plentyn yn fwy tebygol o ailadrodd yr ymddygiad. Fodd bynnag, os oes gennych blentyn nad yw’n hoff o’r ysgol, ac yna rydych yn gwobrwyo ymddygiad ymosodol trwy anfon y plentyn gartref o’r ysgol, bydd y plentyn yn fwy tebygol o ailadrodd yr ymddygiad er mwyn cael y wobr.

Weithiau, y ‘wobr’ am ymddygiad yw’r sylw y byddwch yn ei roi iddo. Mae hyn yn cynnwys sylw negyddol fel gweiddi, datgan siom neu ymgais hir i ddatrys y broblem.

Mewn unigolyn ag ASD, gall y darlun fod yn fwy dryslyd, er enghraifft os yw’n well gan yr unigolyn dreulio llawer o amser ar eu pen eu hunain, gallai defnyddio ‘amser allan’ eu gwobrwyo’n hytrach na’u cosbi. Mae’n bwysig felly eich bod yn ystyried yr unigolyn wrth benderfynu sut i roi neu ddileu gwobrau am ymddygiad. Wrth reoli ymddygiad unigolyn ag ASD, mae’n bwysig eich bod yn addasu eich cyfathrebu fel y trafodwyd ynghynt.

Wrth geisio lleihau ymddygiad annymunol, mae’n bwysig eich bod yn addysgu ffordd newydd o ymddwyn yn briodol ar yr un pryd. Bydd hyn yn atal ymddygiad negyddol arall rhag datblygu. I wneud hyn, bydd angen i chi ddileu pob gwobr o’r ymddygiad annymunol a chwilio am ffyrdd o wobrwyo’r ymddygiad dymunol.

Er enghraifft, anwybyddwch yr unigolyn pan fyddant yn torri ar eich traws trwy ofyn am rywbeth, ond ymatebwch ar unwaith os ydynt yn dweud ‘esgusodwch fi’. Yn y sefyllfa hon, Datblygu Rhaglenni Ymddygiad ar gyfer Plant ag Awtistiaeth bydd yr unigolyn yn dysgu mai dim ond trwy ddweud ‘esgusodwch fi’ gyntaf y byddant yn cael yr ymateb y maent yn chwilio amdano.

Defnyddiwch eich siart RhYC i’ch helpu i adnabod yr ymddygiad annymunol, a gwnewch yn siŵr eich bod yn eglur am hyn cyn i chi ddechrau. Mae sawl ymddygiad wedi eu grwpio gyda’i gilydd a bydd angen i chi sicrhau eich bod yn mynd i’r afael ag un ar y tro. Er enghraifft, os yw plentyn yn gwrthod cydymffurfio â cheisiadau’n gyson ac yn ymosod yn llafar ar bobl eraill wrth wrthod, a ddylech weithio ar gydymffurfio â cheisiadau? Neu ar leihau’r ymddygiad ymosodol?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn adnabod eich meddyliau a’ch teimladau eich hun am y mater, a gwnewch yn siŵr nad ydynt yn effeithio ar y ffordd yr ydych yn rheoli’r ymddygiad.

Er mwyn helpu i ddysgu ymddygiad newydd, mae’n bwysig bod eich ymateb yn glir ac yn gyson, mae’n rhaid i chi ymateb yn yr un ffordd bob tro, a sicrhau bod pobl eraill yn dilyn yr un cynllun hefyd.

Gall cynllunio ymyriadau ymddygiadol ar gyfer plant ag ASD fod yn gymhleth a gall eu gweithredu fod yn heriol. Dylai rhieni a gofalwyr gael cyngor a chymorth proffesiynol yn ymwneud â hyn er mwyn sicrhau bod rhaglenni’n cael eu datblygu a’u gweithredu mewn ffordd briodol.

Gallai enghraifft o gynllun rheoli ymddygiad fod fel a ganlyn:

Problem: Mae Daisy’n gwrthod clirio ei theganau ar ddiwedd y dydd, a phan fyddaf yn gofyn iddi wneud, mae’n gorwedd ar y llawr ac yn sgrechian.

Canlyniad arferol yr ymddygiad: mam yn clirio’r teganau i ffwrdd yn lle hynny.

Ymyriadau cefnogol: Mae Daisy wedi gweld cardiau llun er mwyn sicrhau ei bod yn gwybod yr hyn a ddisgwylir ohoni. Mae Mam hefyd wedi dangos sut mae ‘tacluso’ ond ni chafwyd unrhyw newid. Rydym yn hyderus bod Daisy’n deall yr hyn a ddisgwylir ohoni a sut i gwblhau’r dasg.

Ymddygiad dymunol: rhoi teganau i ffwrdd.
Ymddygiad annymunol: gwrthod cydymffurfio â’r cais; sgrechian.

Cynllun Ymddygiad: Bydd Daisy’n cael siart wobrwyo. Bydd yn cael seren i ddechrau am roi un tegan i ffwrdd er mwyn cyflawni’r wobr. Bydd hyn yn cael ei ymestyn yn raddol i ddau, tri thegan ac yn y blaen tan fod Daisy’n ennill y wobr am glirio’r holl deganau i ffwrdd.

Bydd Mam yn anwybyddu’r ‘ymddygiad annymunol’ (cyhyd â bod hynny’n ddiogel) ac yn parhau â’r gweithgareddau eraill yn y tŷ fel pe na bai’r sgrechian yn digwydd.

(mae taflen gyngor ynghylch sut i ddefnyddio rhaglenni gwobrwyo ar gael yn www.AutismWales.org/cy/rhieni-a-gofalwyr/gwybodaeth-ar-gyfer-plentyn-awtistig/taflenni-cyngor/)