Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Mae pob plentyn ag ASD yn wahanol, ac mae ganddynt ddwy set o gryfderau ac anawsterau. Mae gan bob plentyn ddiddordebau gwahanol ac yn mwynhau gweithgareddau gwahanol. Gall pethau sy’n ymlacio un plentyn beri gofid i blentyn arall. Bydd pob plentyn ag awtistiaeth yn profi symptomau craidd awtistiaeth, ond bydd y ffordd y cânt eu heffeithio yn amrywio rhwng plant ac yn newid dros amser.

Am fod gan eich plentyn gryfderau ac anghenion unigol, mae’n ddefnyddiol creu proffil ar gyfer eich plentyn. Gellir wedyn rhannu’r proffil gydag unrhyw un sy’n cefnogi eich plentyn, o staff meddygol i hyfforddwyr nofio, er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o’r ffordd orau o ryngweithio gyda nhw a’u cefnogi.

Gall defnyddio proffil helpu i osgoi anawsterau, atal camsyniadau a sicrhau bod cysondeb o ran gofal eich plentyn.

Gallwch greu proffil plentyn am ddim yn www.AutismWales.org/cy/rhieni-a-gofalwyr/gwybodaeth-ar-gyfer-plentyn-awtistig/proffil-personol-plentyn/ a’i argraffu a’i gadw ar eich cyfrifiadur, neu gallwch greu un eich hun.

Dylai proffil plentyn gynnwys:

  • Enw eich plentyn
  • Manylion cyswllt mewn argyfwng
  • Manylion anawsterau penodol eich plentyn, a sut i’w cefnogi (fel ‘Rwy’n cael anhawster yn deall iaith gymhleth, defnyddiwch ymadroddion syml’)
  • Manylion y gweithgareddau y mae eich plentyn yn eu mwynhau
  • Manylion y pethau sy’n peri gofid i’ch plentyn
  • Manylion y ffyrdd o dawelu eich plentyn os yw’n ofidus

Os bydd plentyn yn cario’r proffil gyda nhw, neu’n ei rannu mewn sawl sefyllfa, rydym yn eich annog i ystyried a yw’n ddiogel cynnwys llun o’ch plentyn neu beidio, am y gallai fod yn beryglus os yw’r proffil yn mynd ar goll.

Mae templed o broffil oedolyn, a all fod yn fwy addas ar gyfer y glasoed hŷn, hefyd ar gael yn www.AutismWales.org/cy/rwyn-awtistig/adnoddau-i-chi/proffil-personol-oedolion/