Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Tîm Awtistiaeth Rithwir Cymru Gyfan – Profi, Olrhain a Diogelu (TTP)

Profi, Olrhain a Diogelu (TTP): y broses yng Nghymru

Mae’r Tîm Awtistiaeth Rithwir Cymru Gyfan wedi gweithio efo Llywodraeth Cymru i gynhyrchu dogfen sy’n esbonio’r canllawiau a’r broses newydd o amgylch Prawf, Olrhain a Diogelu (TTP) yma yng Nghymru. Dadlwythwch a gweld y ddogfen trwy glicio yma.

Cafodd Tîm Awtistiaeth Rithwir Cymru ei sefydlu ar ddechrau’r cyfnod cyfyngu ac yn cael ei redeg gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol. Mae’r Grŵp, sy’n cynnwys amrywiaeth o weithwyr proffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sefydliadau gwirfoddol, ac unigolion awtistig gyda’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, yn cyfarfod bob wythnos i drafod materion a pharatoi dogfennau defnyddiol i gefnogi’r gymuned awtistig a’u teuluoedd a gofalwyr yn ystod y cyfnod cyfyngu, ac wrth i ni ddod allan o’r cyfnod cyfyngu. Wrth i gyfyngiadau clo barhau i gael eu llacio yng Nghymru, bydd y grŵp yn cyfarfod yn llai aml, ond byddent yn parhau i ddatblygu cyngor a chyfarwyddyd defnyddiol mewn perthynas â materion fel trosglwyddo’n ôl i’r ysgol, cludiant a brechiadau.

I lawr lwytho fersiwn PRINT o’r ddogfen cliciwch yma.