Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

T̨m Awtistiaeth Rithwir Cymru Gyfan РAdnoddau

Tîm Awtistiaeth Rithwir Cymru Gyfan – Rhestr Adnoddau

 

Mae Tîm Awtistiaeth Rithwir Cymru Gyfan wedi cynhyrchu crynodeb o adnoddau yn ystod y pandemig Covid-19. 

Mae Tîm Awtistiaeth Rithwir Cymru wedi'i sefydlu i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad cywir, defnyddiol a diweddar yn ystod argyfwng COVID-19 i bobl awtistig Cymru, rhieni a gofalwyr pobl awtistig a gweithwyr proffesiynol. Trwy gyfarfodydd rhithwir, mae'r Grŵp yn nodi themâu allweddol, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad o amrywiaeth o ffynonellau. Defnyddir hwn i goladu a lledaenu gwybodaeth am y materion ‘mwyaf dybryd’ mewn ffordd hawdd ei defnyddio a hygyrch. Mae'r ddogfen hon yn darparu rhestr o'r adnoddau a adnabuwyd gan y grŵp.

Mae'r rhestr wedi'i chategoreiddio i'r categorïau canlynol: Gwybodaeth Gyffredinol, Pontio, Asesiadau Rhithiol, Iechyd Meddwl, Adnoddau ar gyfer Rhieni/ Gofalwyr, Adnoddau ar gyfer Oedolion Awtistig, Lles, Profiadau Awtistig.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ddogfen PDF a gweld y rhestr lawn o adnoddau.