Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Iechyd Meddwl a Lles Oedolion Awtistig Yn ystod Covid-19: astudiaeth ymchwil

Mae'r coronafeirws wedi cael effaith enfawr ar bob un o'n bywydau, ond i bobl awtistig gall gyflwyno heriau penodol.

 

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd eisiau darganfod sut mae cyfyngiadau fel pellhau cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl a lles oedolion awtistig.

 

Gobeithiwn y bydd yr ymchwil hon yn helpu gwasanaethau i gefnogi oedolion awtistig yn ystod yr amser anodd hwn.

 

Pwy all gymryd rhan?

 

Os ydych chi'n 18 oed neu'n hÅ·n ac yn byw yn y Deyrnas Unedig, byddai Prifysgol Caerdydd wrth ei bodd yn clywed gennych.

 

Hoffent gynnwys pobl awtistig, a phobl heb ddiagnosis awtistiaeth, er mwyn cymharu atebion gan y ddau grŵp.

 

Beth sydd angen i mi ei wneud?

 

Anfonir arolwg byr ar-lein atoch i'w lenwi bob pythefnos am gyfnod o dri mis.

 

Mae'r rhan fwyaf o'r arolygon hyn yn fyr iawn a dylent gymryd 5 munud i'w cwblhau yn unig. Mae'r arolwg cyntaf ychydig yn hirach a bydd yn cymryd 20-30 munud.

 

Os hoffech chi gymryd rhan neu eisiau fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod:

 

https://cardiffunipsych.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_6LPCtnWLQyN572B 

 

Diolch yn fawr.

 

Sylwch: bydd yr astudiaeth hon yn Saesneg yn unig.