Archwilio Cyflogaeth: Sut i ddod o hyd i’r swydd neu’r yrfa sy’n iawn i chi a’i chadw

3ydd Rhagfyr – 10yb-12:45yh

 

Cynhaliodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ddigwyddiad cyflogaeth i gyflogwyr ym mis Rhagfyr 2020. Canolbwyntiodd y digwyddiad hwn ar addysgu cyflogwyr am anghenion pobl awtistig a’r addasiadau rhesymol y mae’n rhaid eu rhoi mewn lle ar gyfer pobl awtistig yn y gweithle.

 

Fel dilyniant i’r digwyddiad hwn, ar 3ydd Rhagfyr 2021 mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad ar gyfer pobl awtistig. Gobaith y digwyddiad yw grymuso pobl awtistig i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd a allai eu cynorthwyo i ddod o hyd i gyflogaeth ystyrlon a chynnal swydd sy’n iawn iddyn nhw.

 

Mae’n bwysig bod y digwyddiad hwn yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda’r gymuned awtistig fel y gallwn, ar y cyd, greu digwyddiad sydd o fudd i bobl awtistig.

 

Arolwg Digwyddiad Cyflogaeth Ar-Lein y
Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol: Adroddiad ar y Canlyniadau

 

Rhwng 21 Mehefin a 23 Gorffennaf cynhaliodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol arolwg ar gyfer pobl awtistig a’u rhieni/gofalwyr. Cyd-gynhyrchwyd yr arolwg gydag Autistic UK a gynhaliodd gwiriadau sensitifrwydd a mewnbwn gwerthfawr o ran sut i wneud yr arolwg yn effeithiol a hygyrch i bobl awtistig. Roedd Anabledd Dysgu Cymru a Hawdd ei Ddeall Cymru, a gyfieithodd yr arolwg i ffurf hawdd ei ddeall, hefyd yn rhan o’r gwaith cyd-gynhyrchu i wneud yn siŵr ein bod ni’n diwallu anghenion pobl awtistig gydag anableddau dysgu ac yn clywed eu lleisiau.

 

Mae’r arolwg yn gofyn i bobl rannu pa bynciau fyddai’n ddefnyddiol iddyn nhw a’u dull dysgu gorau, i sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei drefnu yn seiliedig ar anghenion a barn pobl awtistig. Byddwn yn defnyddio’r ymatebion i ddiffinio paramedrau’r digwyddiad ac i benderfynu pa bynciau y dylem ni ganolbwyntio arnyn nhw yn ystod y sesiynau a sut y dylem ddarparu’r sesiynau hynny.

 

I ddarganfod sut ymatebodd pobl awtistig i’r arolwg, darllenwch ein Adroddiad Canlyniadau Arolwg Digwyddiad Cyflogaeth. 

 

Trwy ein harolwg gwnaethom adnabod ymatebwyr a oedd am ymuno â’n grŵp cynghori digwyddiad cyflogaeth. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’n grŵp cynghori o bobl awtistig, sydd wedi llunio’r digwyddiad hwn o’r dechrau, gan wneud penderfyniadau allweddol am y pynciau y dylai’r digwyddiad gynnwys, pwy ddylai hwyluso’r gweithdai, sut y dylid strwythuro’r digwyddiad a sut y dylai’r digwyddiad gael ei farchnata.

 

Cam nesaf? Cofrestru ar gyfer y digwyddiad

 

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar 3ydd Rhagfyr 2021, 10yb-12:45yh.

 

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad?

Pobl awtistig sy’n chwilio am, neu yn barod mewn, gwaith

 

Y pynciau sy’n cael sylw yn y gweithdai yw:

 

Cewch ddewis dau weithdy i’w mynychu yn ystod y digwyddiad byw. Gallwch ddewis y gweithdai hyn drwy ddefnyddio’r ddolen i gofrestru â’r digwyddiad Zoom. Bydd pob gweithdy’n para 40 munud.

 

Bydd pob gweithdy’n cael ei recordio. Gallwch wylio recordiad o bob gweithdy ar wefan Awtistiaeth Cymru ar ôl y digwyddiad.

 

Er mwyn eich helpu i ddewis pa weithdy yr hoffech ei fynychu, edrychwch ar ein Llyfryn Cyfranogwyr. Mae’n darparu mwy o wybodaeth am gynnwys pob gweithdy a phwy fydd yn hwyluso’r gweithdai. Dewch o hyd i’r llyfryn cyfranogwyr yma.

 

Cofrestrwch gan ddefnyddio’r ddolen hon: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZMkceGsrjwqH93_Fr7IkJt4_hDcn1T4zaeZ

 

Am ledaenu’r gair am y digwyddiad? Anfonwch ein taflen ddwyieithog at bawb rydych chi’n meddwl byddai’n elwa o’r digwyddiad hwn. Cyrchwch y daflen yma.

 

Cyfarfod ag Ewan! Gwyliwch ein fideo hyrwyddo Archwilio Cyflogaeth:

 

Mae Ewan yn aelod o’n grŵp cynghori. Yn y fideo hwn mae’n sôn am ei brofiad o fod yn y grŵp cynghori, sut mae adnoddau cyflogaeth y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi ei helpu a’r hyn y mae’n edrych ymlaen ato am y digwyddiad.

 

Ymunwch ag Ewan yn ein digwyddiad ‘Archwilio Cyflogaeth’, trwy arwyddo i’r digwyddiad yn y ddolen uchod heddiw!