Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

DATGANIAD I’R WASG CLlLC – Canllaw newydd i helpu gweithwyr proffesiynol ym maes Tai i gefnogi pobl awtistig

Cafodd canllaw newydd ei lansio heddiw i helpu gweithwyr ym maes tai i ddeall anghenion pobl awtistig yn well wrth geisio mynediad i wasanaethau tai.

Mae pobl awtistig yn gyson wedi adnabod heriau o ran ceisio cymorth a chefnogaeth addas gan wasanaethau tai o ganlyniad i ddiffyg dealltwriaeth o’r cyflwr a’u anghenion fel unigolion. Amlygwyd heriau tebyg mewn adroddiad gan Shelter Cymru, gan gynnwys ymweliadau anghyfforddus ag awyrgylch swyddfa prysur i gael mynediad i wasanaethau Opsiynau Tai, a diffyg cefnogaeth i esbonio i bobl awtistig am yr ystod o wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.

Gan ymateb i’r angen yma, mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi gweithio gyda grŵp o randdeiliaid yn cynnwys gweithwyr ym maes Tai, gweithwyr ym maes awtistiaeth, rhieni a gofalwyr pobl awtistig, a Chymdeithas Awtistiaeth Cenedlaethol Cymru (NAS Cymru) i gynhyrchu canllaw wedi’i ddiweddaru i alluogi gweithwyr rheng-flaen i weithio gyda phobl awtistig i gyrchu cefnogaeth a gwybodaeth o ran Tai.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae gan bobl awtistig gymaint o hawl ag unrhyw un arall i gael mynediad i gefnogaeth o ran tai, a mae nhw’n gyson wedi bod yn dweud y gall y cynnig sydd ar gael iddyn nhw gael ei wella. Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi clywed y neges honno’n glir ac yn groyw ac wedi gweithio ag ystod o weithwyr a phartneriaid gwerthfawr i gynhyrchu’r adnodd ardderchog yma a fydd ar gael ar draws sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

“Rwy’n hapus iawn i weld y canllaw yn cael ei lansio gyda’r gobaith y bydd yn helpu i wella dealltwriaeth gweithwyr ym maes Tai o awtistiaeth, fel y byddan nhw’n gallu cefnogi eu anghenion unigol yn well. Dyma esiampl arall o’r Tîm yn gwrando’n wirioneddol ar anghenion pobl awtistig ac yn ymateb mewn ymagwedd gydweithredol a gan roi’r person yn gyntaf.”

 

Dywedodd Julie James, Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol:

“Rwy’n croesawu’r canllaw diweddaredig yma sy’n amlygu rhai o’r pethau y mae pobl awtistig yn eu wynebu pan yn ceisio am dÅ· am y tro cyntaf, neu’r tramgwyddau y gallan nhw eu profi o ran eu tenantiaethau. Adeilada’r Canllaw ar yr ymagwedd o roi unigolion wrth galon y broses o wneud penderfyniadau, gan helpu i adnabod pryderon yn gynnar er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw wrthdaro neu ddadlau posib.

“Beth ydyn ni ei angen yng Nghymru ydi cartrefi sefydlog o ansawdd uchel. Dyna sylfaen ein cymunedau ffyniannus ni. Bydd y Canllaw a’r egwyddorion y mae’n ei hybu yn ein helpu ni i gyflawni’r amcanion yma, a rwy’n argymell ei ddefnydd i bob gweithiwr yn y maes tai.”

 

Dywedodd Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae tai o safon yn hollbwysig i iechyd a llesiant y boblogaeth, ac mae’n hanfodol bod pobl yn cael eu cefnogi ac yn derbyn y wybodaeth addas tra’n delio â gwasanaethau tai. Rwy’n falch iawn bod y Canllaw yma, wedi’i arwain gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, wedi cael ei lywio gan bobl broffesiynol ym meysydd tai ac awtistiaeth sy’n golygu y bydd yn adnodd gwerth chweil i helpu gweithwyr broffesiynol rheng flaen i allu cefnogi anghenion defnyddwyr gwasanaeth awtistig yn well. Mae ar gael mewn fformatau copi caled ac ar-lein a rwy’n gobeithio y bydd yn profi’n werthfawr i bawb sydd ynghlwm â’r maes Tai.”

 

Dywedodd Oliver Townsend, Rheolwr Polisi a Materion Allanol Cymorth Cymru:

“Caiff pobl awtistig eu gor-gynrychioli yn y boblogaeth sy’n cysgu allan, sydd yn dangos yn glir bod y system dai angen gwneud mwy. Rydyn ni angen newid ein hymagwedd i gefnogi bobl gydag awtistiaeth i gael mynediad ac i gynnal tai, gan sicrhau bod gwasanaethau yn rhoi’r person yn gyntaf ac sydd wedi’i llywio gan seicoleg. Mae wedi bod yn fraint i gadeirio’r grwp yma o bobl angerddol ac ymroddgar sydd wedi gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu dogfen ragorol yn llawn o gyngor ymarferol ac esiamplau o ymarfer da. Ry’n ni’n argymell pawb sy’n gweithio yn y maes yma i ddarllen y canllaw, ystyried sut y gallan nhw fabwysiadu’r ymagwedd yma, a gwella eu hymateb i bobl awtistig o ran materion tai.”

 

Gellir gweld y canllaw ar y wefan, sef www.AutismWales.org/cy/gwasanaethau-cymunedol/rwyn-gweithio-ym-maes-tai/cynllun-hyfforddi-ardystiedig-tai/

.