Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cynyddu Dealltwriaeth Broffesiynol o Arwyddion o Awtistiaeth: Adroddiad o Effaith wedi’i Gynhyrchu

Cynhyrchwyd adroddiad gan Brifysgol Caerdydd yn manylu ar effaith ‘Y Parti Pen-blwydd’.

Cafodd ‘Y Parti Pen-blwydd’ ei chynhyrchu yn 2017 ar gyfer gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gweithwyr proffesiynol rheng flaen o arwyddion o awtistiaeth mewn plant. Crëwyd y ffilm mewn partneriaeth rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Aston a phartneriaid seicoleg glinigol, a ariannwyd gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru.

Ers hynny, mae’r ffilm wedi cael ei haddasu a’i chyfieithu mewn i sawl iaith er mwyn iddi gael ei defnyddio mewn gwledydd Ewropeaidd gan gynnwys Latfia, yr Eidal, Sbaen a Lithwania drwy bartneriaeth â Phrifysgol Latfia a Chymdeithas Awtistiaeth Latfia, Prifysgol Vita-Salute San Raffaele ac Associazione Autismo Pavia Onlu, Prifysgol Autónoma de Madrid a Autismo España, yn ogystal â Phrifysgol Siauliai a Chymdeithas Awtistiaeth Lithwanaidd.

Mae’r ffilm hefyd wedi dod yn rhan o gymorth clinigol cenedlaethol ar gyfer staff meddygol ac yn rhan o’r adnoddau hyfforddiant cenedlaethol ar gyfer ysgolion yn Y Deyrnas Unedig.

Mae’r adroddiad yn manylu ar ddatblygiad ac effaith gyffredinol y ffilm ers ei chyfnodau cyntaf yn 2015, gan gynnwys dyfyniadau gan weithwyr proffesiynol a rhieni, a chrynodeb o sut mae’r ffilm wedi arwain at welliant sylweddol mewn dealltwriaeth am awtistiaeth ym mhob gwlad ar ôl cael ei gwylio.

Mae’r Adroddiad o Effaith ar gael i ddarllen yma – https://www.asdinfowales.co.uk/resource/Impact-report-for-charities1905final_cym.pdf.

I wylio'r ffilm a dysgu mwy cliciwch yma – https://www.asdinfowales.co.uk/home.php?page_id=9051&setLanguage=4.