Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Yn ôl Canllawiau CG170 NICE,  Autism in under 19s: support and management.[www.nice.org.uk/guidance/cg170]

Asesu ymddygiad

Wrth asesu ymddygiad anodd, dylech chi ystyried a yw’r canlynol wedi’i achosi:

  • nam ar allu cyfathrebu gan arwain at anawsterau ynglŷn â deall sefyllfaoedd neu fynegi anghenion a dymuniadau;
  • anhwylderau corfforol eraill allai fod ar waith;
  • problemau iechyd y meddwl;
  • elfennau amgylcheddol megis goleuo a sŵn;
  • elfennau cymdeithasol megis y cartref, yr ysgol a gweithgareddau hamdden;
  • newidiadau mewn amserlenni neu amgylchiadau personol;
  • newidiadau datblygiadol megis oed aeddfedrwydd;
  • cymryd mantais neu gam-drin;
  • atgyfnerthu ymddygiad anodd yn anfwriadol;
  • dim digon o strwythur a gormod o bethau annisgwyl.

 Cynllunio ar gyfer gofal

Dylech chi baratoi cynllun gofal gan ddatgan ynddo sut y bydd yn ymwneud ag unrhyw o’r nodweddion canlynol sydd wedi’u nodi.

  • triniaeth ar gyfer problemau megis rhai sy’n effeithio ar y corff, y meddwl neu’r ymddygiad;
  • cymorth i bobl megis teuluoedd a chynhalwyr;
  • addasiadau enghreifftiol megis rhagor o strwythur a llai o bethau annisgwyl.

Os nad yw’r cynllun wedi cywiro’r ymddygiad, dylai fod adolygu amlochrog gan gymryd y canlynol i ystyriaeth:

  • natur, difrifoldeb ac effaith yr ymddygiad;
  • anghenion a galluoedd y plentyn neu’r llencyn ynglŷn â’r corff a’r gallu i gyfathrebu;
  • yr amgylchedd;
  • cymorth a hyfforddiant y gallai fod angen eu cynnig i deuluoedd, cynhalwyr neu staff i gymryd camau’n effeithiol;
  • hoffterau’r plentyn/llencyn, y teulu neu gynhalwyr;
  • profiad y plentyn/llencyn a’i ymateb i driniaeth flaenorol.

Camau seicogymdeithasol

 Os nad yw’n ymddangos bod problemau meddyliol, corfforol, ymddygiadol neu amgylcheddol wedi achosi’r pyliau o ymddygiad anodd, triniaeth seicogymdeithasol ddylai fod y man cychwyn.

 Rhaid asesu’r modd mae’r ymddygiad yn digwydd gan gynnwys y canlynol:

  • ffactorau sy’n ei sbarduno yn ôl pob golwg;
  • patrymau ymddwyn;
  • anghenion mae’r plentyn neu’r llencyn yn ceisio eu diwallu trwy ymddygiad o’r fath;
  • canlyniadau’r ymddygiad (sef, yr hyn sydd wedi’i ennill o ganlyniad i’r ymddygiad).

Dylech chi lunio triniaeth seicogymdeithasol yn ôl canlyniadau’r asesu o’r modd mae’r ymddygiad yn mynd rhagddo megis:

  • pennu ymddygiad delfrydol yn eglur;
  • canolbwyntio ar ddeilliannau sy’n gysylltiedig ag ansawdd bywyd;
  • asesu ac addasu ffactorau amgylcheddol allai helpu i achosi neu gynnal yr ymddygiad;
  • llunio strategaeth eglur sy’n cymryd lefel ddatblygiadol ac amryw broblemau eraill y plentyn neu’r llencyn i ystyriaeth;
  • pennu amserlen ar gyfer cyflawni’r nodau (fel y bydd modd newid camau nad ydyn nhw’n effeithiol bob hyn a hyn);
  • mesur yn drefnus yr ymddygiad cyn y driniaeth ac wedyn i weld a yw’r hyn sydd i ddeillio ohoni wedi digwydd;
  • cymryd camau’n gyson ym mhob rhan o fywyd y plentyn/llencyn megis amser yn y cartref ac yn yr ysgol;
  • gofalu bod rhieni, cynhalwyr a phroffesiynolion yn cytuno ar y modd y dylai’r driniaeth yn mynd rhagddi ym mhobman

Triniaeth ffarmacolegol ar gyfer ymddygiad anodd

Dylech chi ystyried defnyddio moddion gwrthseicotig i reoli ymddygiad anodd plant a phobl ifanc a chanddynt awtistiaeth pan nad yw triniaeth seicogymdeithasol na dulliau eraill yn ddigonol a phan nad oes modd eu defnyddio am fod yr ymddygiad yn ddifrifol iawn.  Yn y lle cyntaf, dylai paediatregydd neu seiciatrydd roi’r moddion a monitro’r effaith ar ôl:

  • nodi’r ymddygiad delfrydol yr anelir ato;
  • pennu faint o foddion fydd yn briodol yn ôl pa mor aml a difrifol yw’r ymddygiad ac effaith y moddion dros y byd i gyd;
  • adolygu effeithiolrwydd y moddion ac unrhyw sgîl-effeithiau ar ôl tair neu bedair wythnos;
  • rhoi’r gorau i’r driniaeth ar ôl chwe wythnos os nad oes arwydd bod ymateb clinigol o bwys.

O roi moddion gwrthseicotig:

  • dechrau gyda dogn bychan;
  • defnyddio cyn lleied ag y bo modd;
  • adolygu effeithiau’r moddion yn rheolaidd a chofnodi unrhyw beth niweidiol.

Wrth ddewis moddion gwrthseicotig, dylech chi ystyried sgîl-effeithiau, pris y moddion, yr hyn sydd orau gan y plentyn/llencyn (neu’r rhiant/cynhaliwr lle bo’n briodol) a’r ymateb i unrhyw driniaeth flaenorol â chyffur o’r fath.

Wrth drosglwyddo’r cyfrifoldeb i sefydliad gofal sylfaenol neu gymunedol, dylai’r arbenigwr gyflwyno’r wybodaeth ganlynol i’r sawl fydd yn gyfrifol am roi’r moddion o hynny ymlaen:

  • dewis yr ymddygiad delfrydol;
  • monitro’r buddion a’r sgîl-effeithiau;
  • y dogn lleiaf fydd yn effeithiol;
  • hyd y driniaeth;
  • bwriad i roi’r gorau i’r driniaeth.

D.S. Adeg cyhoeddi canllawiau NICE fis Awst 2013, doedd dim caniatâd yn y Deyrnas Gyfunol i werthu moddion i’r diben hwn gyda phlant.  Dylai’r sawl sydd am roi’r moddion weithio yn ôl canllawiau proffesiynol perthnasol ac ysgwyddo’r holl gyfrifoldeb am y penderfyniad.  Rhaid cael caniatâd rhiant neu gynhaliwr ar ôl esbonio’r goblygiadau, a chofnodi hynny.  Mae rhagor o wybodaeth yn nogfen y Prif Gyngor Meddygol: Good practice in prescribing and managing medicines and devices.

Dadlwythiadau

Siart A-Bîe-C
Defnyddio siart A-Bîe-C
Deall Ymddygiad Heriol mewn Plant ag Awtistiaeth
Adnabod Sbardunau Ymddygiad Heriol o Siart ABC
D atblygu Rhaglenni Ymddygiad ar gyfer Plant ag Awtistiaeth