Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Ydych chi’n gadarnhaol ynglŷn â gweithio gydag awtistiaeth?

Bydd pobl yn tueddu i gamddeall ystyr awtistiaeth, yn aml.  Rydyn ni’n sôn am ‘sbectrwm awtistiaeth’ achos y bydd rhinweddau, namau a lefel gweithredu unigolion yn amrywio’n fawr.  Mae sawl un ac arno anhwylder sy’n perthyn i’r sbectrwm awtistaidd (gan gynnwys Syndrom Asperger) yn gallu gweithio mewn swydd ac mae rhai wedi rhagori trwy gyrraedd lefelau uwch cwmnïau mawr.

Mae gan sawl un ac arno awtistiaeth fedrau a nodweddion personoliaeth a fyddai o fudd mawr i gyflogwyr.  Bydd y rheiny’n ymwneud â’u diddordebau arbennig weithiau, lle mae rhywun wedi treulio oriau lawer dros y blynyddoedd mewn gweithgareddau ymchwil, dysgu ac ymgysylltu sydd wedi meithrin ynddo wybodaeth helaeth am y maes o dan sylw.  Mae gan rai pobl sy’n ymwneud â sbectrwm awtistiaeth fanwl gywirdeb fel y gallan nhw ragori mewn rolau sy’n mynnu medr o’r fath.  Gall eraill gadw eu sylw ar orchwyl mae rhaid ei wneud dro ar ôl tro am oriau ac, felly, bydden nhw’n ddelfrydol ar gyfer rolau lle mae rhaid canolbwyntio dros gyfnod hir.

Ymhlith nodweddion ei bersonoliaeth, mae tuedd i gadw at drefn (megis dod i’r gwaith yn brydlon ac ychydig iawn o absenoldeb), diffyg diddordeb mewn cymdeithasu heb ddiben (megis tuedd i gadw at ei waith yn hytrach na sgwrsio) a defnyddio iaith yn llythrennol (llai tebygol o gyfleu negeseuon cymysg).

Gallai fod angen addasu’r gweithle ar gyfer rhywun ac arno awtistiaeth – ond, yn aml, pethau mân megis osgoi iaith drosiadol, esbonio popeth yn drylwyr a phennu gorchwylion a chynlluniau yn eglur.  Gall buddsoddiad bychan dalu ar ei ganfed wrth gyflogi rhywun ac arno awtistiaeth.

Lawrlwythiadau

Cyfweld Ymgeisydd a Chanddo Awtistiaeth
Cynghorion i Reolwyr
Cynghorion i Gydweithwyr
TUC - Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth yn y Gweithle

Cynllun Gweithredu i Weithwyr yn eu Gwaith

Mae dechrau swydd yn gallu bod yn hynod anodd, fodd bynnag yn yr arweiniad hwn bydd gwybodaeth a chwestiynau i’ch helpu i baratoi. Mae’r cynllun gweithredu wedi cael ei rannu yn 3 adran:

  1. Dechrau Cyflogaeth
  2. Eich Cyfnod Cynefino
  3. Cefnogaeth barhaus trwy eich Cyflogaeth

Sut i ddefnyddio’r Cynllun Gweithredu hwn

Atebwch y cwestiynau a llenwch y gweithgareddau cyn a phryd y byddwch yn dechrau gweithio. Gwnewch yn siŵr fod staff wedi mynd trwy’r cynllun gweithredu hwn gyda chi i wneud yn siŵr fod gennych yr holl gymorth sydd ei angen arnoch. Gall y cynllun gweithredu hwn fynd efo gwaith papur arall sy’n rhaid i chi fynd i’r gwaith gyda chi o bosib (tystiolaeth o’ch hunaniaeth, cymwysterau a thystysgrifau).

1. Dechrau Cyflogaeth

2. Dechrau Cyflogaeth

3. Cefnogaeth barhaus trwy eich Cyflogaeth