Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Defnyddio Cynllun Gweithredu Strategol Cymru dros Anhwylder y Sbectrwm Awtistaidd

Cafodd Cynllun Gweithredu Strategol Cymru dros Anhwylder y Sbectrwm Awtistaidd ei gyhoeddi fis Ebrill 2008.  Cymru oedd y wlad gyntaf i lunio strategaeth i bobl awtistaidd o bob oedran.  Pennodd y cynllun nifer o gamau i’w hariannu fel y gallai gwasanaethau lleol ddiwallu anghenion pobl ifanc ac oedolion sydd ag anhwylder y sbectrwm awtistaidd.
 

Cafodd Cynllun Gweithredu Strategol Cymru dros Anhwylder y Sbectrwm Awtistaidd ei gyhoeddi fis Ebrill 2008.  Cymru oedd y wlad gyntaf i lunio strategaeth i bobl awtistaidd o bob oedran.  Pennodd y cynllun nifer o gamau i’w hariannu fel y gallai gwasanaethau lleol ddiwallu anghenion pobl ifanc ac oedolion sydd ag anhwylder y sbectrwm awtistaidd.  Ar ôl iddi gyhoeddi’r cynllun, neilltuodd Llywodraeth y Cynulliad £5.4 miliwn ar ei gyfer rhwng 2008 a 2011 fel y gallai’r awdurdodau lleol lunio ffyrdd o ddiwallu pobl sydd ag anhwylder y sbectrwm awtistaidd.  Fis Chwefror 2011, cyhoeddodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog dros y Gwasanaethau Cymdeithasol, y byddai £2 filiwn i blant ac oedolion sydd ag anhwylder y sbectrwm awtistaidd yn 2011-12.

Ar ôl cyhoeddi’r cynllun gweithredu, roedd yn bwysig helpu i ddatblygu gwasanaethau lleol, rhanbarthol a gwladol. Mae pobl allweddol yn cydweithio bellach i greu gwasanaethau i’r rhai sydd ag anhwylder y sbectrwm awtistaidd a lledaenu arferion da trwy Gymru i gyd. Mae gan bob awdurdod lleol swyddog arweiniol a chynllun gweithredu yn y maes hwn. Mae pob cynllun wedi’i baratoi trwy gylch budd-ddalwyr lleol a fydd yn ymwneud â’i ddefnyddio a’i adolygu, hefyd.

Ers cyflwyno’r cynllun gweithredu, mae llawer wedi’i gyflawni o ran codi ymwybyddiaeth am y cyflwr a gwella byd plant ac oedolion sydd ag anhwylder y sbectrwm awtistaidd.

 

Chwilio am lawrlwythiadau?

Dolenni defnyddiol

Dadlwythiadau

Outcome Evaluation of the Autistic Spectrum Disorder Strategic Action Plan: Final Report
Gwerthuso Canlyniadau'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig Adroddiad Terfynol: Crynodeb Gweithredo
WAG ASD Strategic Action Plan 2008 - 2011
Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ynglŷn ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistaidd (ASD) Ion 2011
Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ynglŷn ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistaidd (ASD) Mehefin 2010
Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ynglŷn ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistaidd (ASD)
ASD SAP Evaluation Report Final 18 3 2011