Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cynllun Cyflawni Cyfamserol 2015 Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistaidd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun blwyddyn i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau gweithredu ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig (ASD)

 Bydd y cynllun cyflawni interim yn bwrw ymlaen â’r camau gweithredu pwysicaf y bydd y grŵp cynghori yn eu nodi wrth adnewyddu’r cynllun gweithredu ASD.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Mynd i’r afael ag oedi wrth roi diagnosis a gwella llwybrau diagnostig ASD
  • datblygu opsiynau ar gyfer gwasanaeth integredig i nodi anghenion sydd heb eu diwallu a mynd i’r afael â’r bylchau mwyaf acíwt mewn gwasanaethau a chymorth
  • gwella canlyniadau addysg a chyflogaeth, gan gynnwys trosglwyddo
  • datblygu gweithgareddau codi ymwybyddiaeth a deunyddiau ac adnoddau hyfforddi proffesiynol.

Chwilio am lawrlwythiadau?

Dadlwythiadau

Anhwylderau’r Sbectrum Awtistig - Cynullun cyflawni interim 2015 - 2016