Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Hyrwyddo Lles Awtistig – Cynhadledd Awtistiaeth Genedlaethol Cymru 2019

Bwriad y Gynhadledd Genedlaethol Awtistiaeth Cymru cyntaf -“Hyrwyddo Lles Awtistiaeth” a gynhaliwyd ar 3 Ebrill yn Abertawe oedd cynyddu lles oedolion awtistig sydd ddim o reidrwydd mewn cyswllt rheolaidd â’r cyhoedd neu wasanaethau trydydd sector, ond y byddai digwyddiad ynghylch lles a chynyddu eu cymhwysedd i ymdopi â bywyd bob dydd yn beth cadarnhaol.

Cydlynwyd y Gynhadledd gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, wedi’i gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dull y Gynhadledd oedd darparu amrywiaeth o brif anerchiadau, gweithdai, ymarferion, arfau ac awgrymiadau a fyddai’n helpu lles emosiynol, corfforol a/neu cymdeithasol pobl awtistig sydd yn 16 oed +, a’r rheiny sydd yn gofalu amdanynt/ eu gwesteion.

Cafodd y Gynhadledd ei hunan-ariannu drwy gymysgedd o noddwyr craidd o Brifysgol Abertawe, Ymddiriedolaeth Gymunedol yr Elyrch, Sefydliad y Gweilch, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r cyd-noddwyr Datblygiadau Hacer, Cyfeiriadur Awtistiaeth a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Chyfeiriadur Iechyd.

Ar ôl cytuno ar gynllun busnes, bu i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen Cynhadledd i gyd-drefnu’r digwyddiad. Roedd y Grŵp yn cynnwys 5 o bobl awtistig, 5 cynrychiolydd rhiant/ gofalwr, 5 gweithwyr proffesiynol a chynrychiolwyr o’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol. Roedd y Grŵp yn cyfarfod bob 3 wythnos am ddwy awr yn y 5 mis yn arwain at y Gynhadledd, a chadeiriwyd gan Arweinydd Strategol Awtistiaeth Cenedlaethol. Hysbysodd a chytunodd y Grŵp ar deitl i’r Gynhadledd, ei nodau a themâu, a manylion y gweithdai a oedd yn cael eu cynnig. Hefyd darparodd y Grŵp rôl sylfaenol ar ddiwrnod y Gynhadledd fel rhan o’r Tîm Cymorth a Chroeso, gan gefnogi gynrychiolwyr a sicrhau rhediad esmwyth o’r digwyddiad cyfan.

Roedd dau brif siaradwyr awtistig yn y Gynhadledd – Emma Durman a Jules Robertson, yn ogystal â chyd-gadeiryddion awtistig, Amara Tamblyn a Gerraint Jones-Griffiths. Siaradodd Vaughan Gething AC, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn  y bore hefyd a chyflwynodd gefndir y digwyddiad, ac yn y prynhawn roedd sesiwn cyfarfod llawn gyda’r Cynghorydd Huw David, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a ddarparodd wybodaeth am waith y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol a chynllunio’r Gynhadledd ei hun. Rhoddodd y Gynhadledd y dewis i gynrychiolwyr awtistig rhwng dau weithdy yn y bore a dau weithdy yn y prynhawn o’r rhestr a oedd yn canolbwyntio ar les.

Hoffai’r Tîm Awtistig Cenedlaethol ddiolch yn arbennig i’r siaradwyr, arweinwyr y gweithdai, arweinwyr Awtistiaeth, staff Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig sydd wedi cyfrannu at wneud y Gynhadledd yn llwyddiant. Hefyd, diolch i’r Grŵp Tasg a Gorffen Cynhadledd a roddodd oriau o’u hamser i gynorthwyo a chyd-gynhyrchu digwyddiad llwyddiannus. Hoffem ddiolch i’r cynrychiolwyr eu hunain, y rhai sydd ag awtistiaeth, eu gwesteion, a’r gweithwyr proffesiynol a oedd yn cefnogi’r Gynhadledd ac yn darparu adborth gwerthfawr.

Cafwyd nifer o sylwadau cadarnhaol gan unigolion a oedd yn mynychu’r Gynhadledd fel aelodau o’r Tîm Cymorth a Chroeso, y siaradwyr ac arweinwyr y gweithdy. Roedd y sylwadau hyn, ochr yn ochr â’r adborth a gafwyd gan y cynrychiolwyr awtistig a fynychodd gyda’u gwesteion, yn brawf i lwyddiant trosfwaol y Gynhadledd.

Bydd Adroddiad Gwerthuso yn cael ei gynnwys yn yr adran hon o’r wefan ar ôl ei gwblhau, ei adolygu a’i ardystio gan y Grŵp Tasg a Gorffen Cynhadledd. Byddwn yn defnyddio’r Adroddiad Gwerthuso i hysbysu digwyddiadau yn y dyfodol.

Gweler isod adnoddau a chyflwyniadau pellach o'r digwyddiad:

Llinell Amser Ffilm y Gynhadledd:

  • 00:00:00 – 00:00:12 – Croeso gan y Cadeiryddion: Gerraint Jones-Griffiths ac Amara Tamblyn
  • 00:00:12 – 00:09:44 – Vaughan Gething AC
  • 00:09:44 – 00:39:18 – Emma Durman, Cyfarwyddwr Autside
  • 00:39:18 – 00:40:31 – Rhys Watty, Telynor
  • 00:39:18 – 00:42:37 – Croeso yn ôl gan y Cadeiryddion: Gerraint Jones-Griffiths ac Amara Tamblyn
  • 00:42:37 – 00:53:09 – Y Cyng Huw David, Llefarydd CLlLC
  • 00:53:09 – 01:20:24 – Jules Robertson, Actor a Gemma Smith, Galluogwr Creadigol

Lawrlwythiadau

Adroddiad Gwerthuso y Gynhadledd
Adroddiad Gwerthuso y Gynhadledd - Atodiadau Technegol
Dogfen y Gynhadledd


Dogfen Hygyrchedd


Emma Durman, Autside - Llwybr troellog lles - cardiau post o fy nhaith




Y Cyng Huw David - Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol


1. Awtistiaeth a Bwyta - mynd i'r afael ag anawsterau bwyta mewn awtistiaeth - Dr Jacinta Tan(Ar gael yn Saesneg yn unig)
2. Mynd ymlaen yn dda: i mewn i ganol oed a thu hwnt - Cos Michael (Ar gael yn Saesneg yn unig)


3. Gwella Cefnogaeth Alcohol ar gyfer Pobl gydag Awtistiaeth - Andrew Minsell and Mark Brosnan (Ar gael yn Saesneg yn unig)
4. Grymuso Rhyngbersonol: awgrymiadau ymarferol i wella eich perthynas - Dr Freya Spicer-White (Ar gael yn Saesneg yn unig)
5. Ffynnu yn y Brifysgol - Sara Hounsell and Gemma Price (Ar gael yn Saesneg yn unig)

8. Canllaw Awtistig i Greadigrwydd - Rhi Lloyd-Williams (Ar gael yn Saesneg yn unig)

9. Awtistiaeth a Chyflogaeth - Keith Ingram (Ar gael yn Saesneg yn unig)


10. Sgiliau am Oes a Gwneud Pethau - Lucy Wells (Ar gael yn Saesneg yn unig)


10. Sgiliau am Oes a Gwneud Pethau - Taflen - Lucy Wells (Ar gael yn Saesneg yn unig)

11. Technoleg Ddigidol - y manteision a'r anfanteision - Professor Phil Reed (Ar gael yn Saesneg yn unig)
12. Rheoli Pryder gan gynnwys Croesawu Ysgogiadau Diogel - Emma Durman (Ar gael yn Saesneg yn unig)