Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Gweminar Symposiwm Cyflogaeth

Ar 4ydd Rhagfyr 2020, fe wnaeth y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol hwyluso Gweminar Symposiwm Cyflogaeth yn rhad ac am ddim mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Canolfan Genedlaethol dros Iechyd Meddwl (NCMH) (Prifysgol Caerdydd), ac Anabledd Dysgu Cymru (LDW). Ariennir y symposiwm gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Cafodd y symposiwm ei recordio ac mae ar gael i’w weld isod, wedi’i rannu’n bedair rhan. I weld y rhaglen lawn, disgrifiad o’r gweithdai, ac i gwrdd â’ch cyd-gadeiryddion, sgroliwch i lawr i waelod y dudalen hon.

Cynhaliwyd y symposiwm ar gyfer cyflogwyr, darparwyr cyflogaeth a gefnogir, a staff cyflogaeth allweddol (e.e. DEA), a cheisiodd ateb y cwestiynau canlynol:

  • Pa gefnogaeth sydd ar gael i gyflogwyr sydd â staff awtistig ac/neu ag anabledd dysgu?
  • A ydych wedi ystyried y buddion o gyflogi unigolyn awtistig ac/neu rywun ag anabledd dysgu?
  • A ydych yn ddarparwr cyflogaeth a gefnogir, sy’n awyddus i wybod mwy am sut mae Covid-19 wedi cael effaith ar bobl awtistig ac/neu bobl ag anabledd dysgu?

 

Bydd is-deitlau Cymraeg yn cael ei ychwanegu yn y flwyddyn newydd.

Rhan Un – Croeso, Cyd-destun a’r Hyn sydd ar gael i Gyflogwyr a Darparwyr Cyflogaeth â Chymorth

Siaradwyr yn cynnwys Ken Skates, AS, Y Gweinidog Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Y Cynghorydd Emlyn Dole, Llefarydd Cyflogaeth a Sgiliau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a llawer mwy!

Rhan Dau – Y Cynnig ar draws Cymru

 

Siaradwyr yn cynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Gyrfa Cymru, Engage to Change, a Gweithffyrdd+

 

Rhan Tri – Sut i Wneud y Mwyaf o’r Cynnig yng Nghymru, cyfle i drafod a rhannu gwybodaeth mewn ystafelloedd trafod

Gweithdy A

Awtistiaeth a Chyflogaeth: Cefnogi cyflogwyr mewn lleoliadau prif ffrwd

  • Keith Ingram, Swyddog Arweiniol Awtistiaeth Caerdydd a’r Fro a Chadeirydd Fforwm y Swyddogion Arweiniol Awtistiaeth Leol
  • Wendy Thomas, Arweinydd Proffesiynol Awtistiaeth Cenedlaethol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Gweithdy B

Pobl ag Anableddau Dysgu a Chyflogaeth: Cefnogi cyflogwyr mewn lleoliadau prif ffrwd

  • Sian Clarke, Rheolwr Gweithrediadau, ELITE
  • Chris English, Rheolwr Hyfforddi, ELITE
  • Robyn Williams, Rheolwr Hyfforddi, Agoriad Cyf

Gweithdy C

Ymateb Llywodraeth Cymru i gyflogwyr mewn perthynas â Covid-19 a sgiliau

  • Edwyn Williams, Pennaeth Ymgysylltu, Cyflogadwyedd a Sgiliau, Llywodraeth Cymru

 

 

Gweithdy D

“Beth sy’n Gweithio yn y Gwaith?”

  • Catherine Leggett, Rheolwr Ymgysylltu â Chyflogwyr, y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

Gweithdy E – ddim ar gael

Cyflogaeth â Chymorth yng Nghymru: Materion sy’n dod i’r amlwg mewn adeg heriol i ddarparwyr cyflogaeth â chymorth a chyflogwyr

  • Dr Elisa Vigna, NCMH, Prifysgol Caerdydd

 

Rhan Pedwar – Sesiwn Dorfol a’r Ffordd Ymlaen

Adborth

Roedd rhai o’r sylwadau gan rai a ddaeth i’r symposiwm byw yn cynnwys:

 “Wir wedi mwynhau’r siaradwyr i gyd y bore ’ma, llwyth o wybodaeth, diolch i bawb fu’n rhan o drefnu hwn”

 “Bore defnyddiol iawn. Diolch”

 “Diolch yn fawr iawn am gyfraniadau pawb – bore llawn gwybodaeth!”

 “Diolch, wedi cael llawer o wybodaeth”

Y Camau Nesaf…

Y brif her o hyn ymlaen yw i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol a’i bartneriaid ystyried sut mae cael mwy o gyflogwyr i gyflogi pobl awtistig a rhai sydd ag anableddau dysgu. Bydd y Tîm yn cynnal symposiwm cyflogaeth i bobl awtistig a phobl sydd ag anableddau dysgu yn 2021. Os ydych chi’n awtistig neu os oes gennych anabledd dysgu ac os hoffech chi gymryd rhan yn y grŵp cynllunio ar gyfer y symposiwm nesaf, rhowch wybod i ni trwy anfon e-bost at AwtistiaethCymru@WLGA.gov.uk.

Cymerwch ran!

Nid yw’n rhy hwyr i gymryd rhan yn rhai o drafodaethau’r symposiwm. Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a thagiwch ni yn eich negeseuon gan ddefnyddio @AutismWales.

Lawrlwythiadau

Disgrifiadau o'r gweithdai
Cyfarfod â'ch cyd-gadeiryddion!