Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Amdanom ni

Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol

Mae’r Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), yn gweithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW). Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Arweinwyr Awtistiaeth lleol o fewn awdurdodau lleol, byrddau iechyd, rhanddeiliaid allweddol a grwpiau cynghori.

Mae’r Tîm yn cydlynu cyfarfodydd rheolaidd y fforwm arweinwyr awtistiaeth. Mae’r fforwm yn cynnig cyfle i gydweithio i ddatblygu a diwygio adnoddau allweddol a gweithio ar sail Cymru gyfan.

Yn ogystal â’r adnoddau sydd ar gael ar draws gwefan ASDinfoWales, fe welwch wybodaeth hefyd am waith pellach y tîm.

Isod fe welwch ragor o wybodaeth am rhaglenni gwaith allweddol, digwyddiadau a dogfennau sydd wedi’u datblygu ac sydd ar gael i’w lawrlwytho

Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol 2022/23.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar:
• Cydweithio
• Cyfathrebu
• Cod Ymarfer
• Hyfforddiant a Datblygu’r Gweithlu
• Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig
• Addysg
• Pontio i’r Tîm ND Cenedlaethol

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys Adroddiad Data IAS 2022/23 yn atodiad ychwanegol.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau darllen am y gwaith rydyn ni wedi’i wneud rhwng Ebrill 2022 – Mawrth 2023.

Cliciwch yma i weld yr Adroddiad Blynyddol 2022/23.

Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol Atodol 2021/22.

Mae’r adroddiad yn ategu ein Hadroddiad Blynyddol 2018/19 ac yn canolbwyntio ar:
• Cydweithio
• Datblygiadau o ran gweithredu’r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth
• Datblygiad gwefan Awtistiaeth Cymru
• Datblygiadau yn y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
• Ymgyrchoedd Cyfathrebu
• Hyfforddi a Datblygu’r Gweithlu
• Datblygiadau yn y cynllun Dysgu Am Awtistiaeth

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys Adroddiad Data IAS 2021/22 yn atodiad ychwanegol.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau darllen am y gwaith rydyn ni wedi’i wneud rhwng Ebrill 2021 – Mawrth 2022.

Cliciwch yma i weld yr Adroddiad Blynyddol Atodol 2021/22.

Ar Ragfyr 3ydd, 2021, cynhaliodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ddigwyddiad cyflogaeth rhithwir am ddim o’r enw Archwilio Cyflogaeth: Sut i ddod o hyd i’r swydd neu’r yrfa sy’n iawn i chi a’i chadw. Roedd y digwyddiad ar gyfer pobl Awtistig o oedran gweithio.

Cyd-gynhyrchwyd y digwyddiad gyda grŵp cynghori o 13 o bobl Awtistig. Gwnaeth y grŵp cynghori bob penderfyniad allweddol am y digwyddiad, gan gynnwys pynciau’r gweithdai, hwyluswyr y gweithdai, fformat y digwyddiad ac enw’r digwyddiad.

Datblygwyd y digwyddiad hefyd gyda grŵp cynllunio strategol, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a sefydliadau addysg uwch, awdurdodau lleol, sefydliadau Trydydd sector, a chynlluniau cyflogaeth â chymorth ledled Cymru.

Mae’r digwyddiad ar gael i’w weld yma.

Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol Atodol 2020/21.

Mae’r adroddiad yn ategu ein Hadroddiad Blynyddol 2018/19 ac yn canolbwyntio ar:

  • Lansio gwefan AwtistiaethCymru
  • Cydweithio
  • Datblygiadau yn y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig
  • Ymgyrchoedd Cyfathrebu
  • Datblygu hyfforddiant rhithiol
  • Datblygiadau yn y cynllun Dysgu Am Awtistiaeth

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys Adroddiad Data IAS 2020/21 yn atodiad ychwanegol.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau darllen am y gwaith rydyn ni wedi’i wneud rhwng Ebrill 2020 – Mawrth 2021.

Cliciwch yma i weld yr Adroddiad Blynyddol Atodol 2020/21.

Fe wnaeth y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol hwyluso symposiwm cyflogaeth mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Canolfan Genedlaethol dros Iechyd Meddwl (NCMH) (Prifysgol Caerdydd), ac Anabledd Dysgu Cymru (LDW). Ariennir y symposiwm gan Lywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd y symposiwm ar gyfer cyflogwyr, darparwyr cyflogaeth a gefnogir, a staff cyflogaeth allweddol, ac mae ar gael i’w weld yma.

Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau darllen am y gwaith a wnaed gennym rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020, y mae’r rhan fwyaf ohono wedi’i gyflawni ar y cyd â phobl awtistig, rhieni/gofalwyr, gweithwyr proffesiynol ac Arweinwyr Awtistiaeth awdurdodau lleol yng Nghymru, a Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig. Mae’r adroddiad hwn yn perthyn i chi lawn cymaint ag y mae’n perthyn i ni.

Mae’r adroddiad yn cynnwys rhagair gan Eluned Morgan MS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg sydd newydd ei phenodi; clipiau sain gan bobl awtistig, cydweithwyr a’r Cynghorydd Huw David, Llefarydd WLGA dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Mae’n braf iawn gennym gynnwys casgliad sylweddol o astudiaethau achos sydd wedi’u tynnu o blith gwaith swyddogion ar draws Cymru, yn ogystal â chan weithwyr proffesiynol a phartneriaid yn y trydydd sector… a llawer mwy!

Cliciwch yma i weld yr Adroddiad Blynyddol Atodol 2019/20.

Cliciwch yma i weld ein Casgliad o Astudiaethau Achos (ferswin Cymraeg i ddilyn).

Gwaith yn gynllun uchelgeisiol sy’n adeiladu ar sylfaen y gwaith yn 2018/19. Nodir pum ffrwd gwaith craidd ac ni fydd rhai ohonynt yn cael eu cwblhau mewn blwyddyn. Mae rhai gweithgareddau yn atgyfnerthu ein gwaith y llynedd ac mae rhai gweithgareddau wedi dechrau eleni. Er hyn, rydym yn hyderus eu bod yn adlewyrchu’r hyn mae ein partneriaid a’n rhanddeiliaid wedi dweud wrthym sydd angen eu cwblhau.

Rydym yn enwedig o ddiolchgar i’r cydweithwyr hynny a’r budd-ddeiliaid ar draws Cymru sydd wedi bod yn gweithio gyda ni i gyflwyno’r canlyniadau yn yr Adroddiad Blynyddol ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw yn y misoedd nesaf i barhau i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth a chefnogi unigolion, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Cliciwch yma i weld yr Adroddiad Blynyddol 2018/19.

Bob blwyddyn rydym yn datblygu cynlluniau gwaith clir. Os ydych am weld cynlluniau gwaith o flynyddoedd blaenorol, cliciwch ar y ddolen isod.

Cadarnhaodd CLlLC ac ICC eu hymrwymiad i gydweithio a chydreoli’r Tîm Awtistiaeth Genedlaethol trwy Femorandwm o Ddealltwriaeth.

Cliciwch ar y ddogfen isod i’w weld a lawrlwytho.

Memorandum of Understanding – WLGA & PHW >

Ers sefydlu’r tîm, mae trefniadau ad-hoc ac anffurfiol wedi bod ar waith er mwyn ceisio barn pobl awtistig, eu rhieni a’u gofalwyr. Mae eu barn wedi llywio’r datblygiad ac wedi helpu i gyflwyno adnoddau a hyfforddiant. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod angen ffurfioli’r trefniadau wrth symud ymlaen â hyn, ac mae’r Tîm yn ymgysylltu’n weithredol ag ystod ehangach o bobl o gymuned awtistig ar sail reolaidd a pharhaus. Bydd y broses hon o ymgysylltu a chyfranogi’n ategu at waith y tîm. Mae’r strategaeth hon wedi’i hanelu at bobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr, gweithwyr proffesiynol, sefydliadau a’r gymuned ehangach.

Beth sydd angen i chi ei wneud er mwyn cymryd rhan?

Cysylltwch â’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar AwtistiaethCymru@WLGA.GOV.UK er mwyn darganfod sut i gymryd rhan.

Cliciwch yma i weld y ddogfen PDF.

Bwriad y Gynhadledd Genedlaethol Awtistiaeth Cymru cyntaf -“Hyrwyddo Lles Awtistiaeth” a gynhaliwyd ar 3 Ebrill yn Abertawe oedd cynyddu lles oedolion awtistig sydd ddim o reidrwydd mewn cyswllt rheolaidd â’r cyhoedd neu wasanaethau trydydd sector, ond y byddai digwyddiad ynghylch lles a chynyddu eu cymhwysedd i ymdopi â bywyd bob dydd yn beth cadarnhaol.

Daeth y symposiwm â gweithwyr proffesiynol allweddol o bob rhan o Gymru ynghyd. Nod y digwyddiad oedd cynyddu gwybodaeth am y cyflwyniad, ac effeithio o ymlyniad a thrawma ac sut mae hyn yn gysylltiedig â chyflwyniad awtistiaeth. Cyfarfod cychwynnol oedd hwn a’r bwriad yw datblygu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac arfer y rhai sy’n gweithio yn y maes hwn ymhellach.

Cliciwch yma i weld y dogfennau o’r digwyddiad

Mewn ymateb i ymholiadau niferus am gynnwys yr hyfforddiant i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gydag unigolion ag awtistiaeth, rydym wedi datblygu fframwaith hyfforddiant i helpu comisiynwyr i gynllunio a rhoi hyfforddiant ar waith.

Cafodd y fframwaith hwn ei addasu i ddechrau o Fframwaith Hyfforddiant Awtistiaeth Addysg y GIG yr Alban. ‘Optimising Outcomes’, (Tachwedd, 2014). Cafodd ei adolygu’n sylweddol gan weithgor y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn 2021.

Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i gefnogi cysondeb hyfforddiant led led Cymru.

Cliciwch ar y ddolen isod i weld a lawrlwytho’r fframwaith hwn.

Fframwaith Hyfforddiant Awtistiaeth Cenedlaethol i Gymru 2022​ >

Proffil Swydd a Thasgau ar gyfer y Fframwaith Hyfforddiant Awtistiaeth Cenedlaethol >

Fframwaith Hyfforddiant Awtistiaeth Cenedlaethol i Gymru – Canllawiau ar gyfer comisiynu hyfforddiant >

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori yn 2015 fel rhan o ddiweddariad Strategaeth Llywodraeth Cymru. Ymatebodd nifer fawr o bobl awtistig, rhieni gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol ac mae hyn yn helpu i lunio a llywio’r strategaeth wedi’i diweddaru a gwaith y Tîm Cenedlaethol. Mae copi o ganfyddiadau’r adroddiad cryno i’w weld isod.

Lawrlwythiadau

Adroddiad Blynyddol 2022-23
Fframwaith Hyfforddiant Awtistiaeth Cenedlaethol i Gymru - Canllawiau ar gyfer comisiynu hyfforddiant
Adroddiad Blynyddol Atodol 2021-22
Fframwaith Hyfforddiant Awtistiaeth Cenedlaethol i Gymru 2022
Proffil Swydd a Thasgau ar gyfer Fframwaith Hyfforddiant Awtistiaeth Cenedlaethol Cymru 2022
Adroddiad Blynyddol Atodol 2019-20
Adroddiad Blynyddol Atodol 2020-21
Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol - Adroddiad Blynyddol 2018-19
Cynllun Gwaith Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol 2019–2020
Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogi Awtistiaeth 2019-2022
Femorandwm o Ddealltwriaeth - CLlLC ac ICC
Adnoddau a ffilmiau hyfforddiant y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar gael
Crynodeb o Weithgareddau Ymgynghori ASA