Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Hazel Lim – Stori Ddigidol

Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi ymrwymo i weithio’n gydgynhyrchiol ag unigolion awtistig, rhieni/gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru. Yn ddiweddar, gwnaethom gyfarfod â Hazel Lim yn Theatr y Grand Abertawe i siarad â hi am sut mae awtistiaeth yn cael ei gweld yn y gymuned Tsieineaidd, a pha wybodaeth a chyngor yr oedd ganddi i’w rhannu â gweithwyr proffesiynol, a’r rhai sy’n gweithio gyda phobl awtistig, am sut y gall hyn effeithio ar ymarfer.

Cwrdd â Hazel!

Hazel yw sylfaenydd y Grŵp Cymorth Awtistiaeth Tsieineaidd, llwyfan a grëwyd mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru yn Abertawe, lle mae Hazel bellach wedi’i lleoli. Mae ganddi MSc mewn Awtistiaeth a Chyflyrau Cysylltiedig, ac mae hefyd yn fam i fab awtistig. Yma, mae’n siarad am sut y gwnaeth deall cyflwr ei mab ei gosod ar y llwybr i helpu i gefnogi rhieni/gofalwyr eraill yn y gymuned Tsieineaidd, a sut y gall gweithwyr proffesiynol addasu eu hymarfer i sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch i bobl awtistig a’u teuluoedd yn y gymuned. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y Grŵp Cymorth Awtistiaeth Tsieineaidd. Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru.

Pam cafodd y ffilm ei chreu?

Dyma’r drydedd ffilm mewn cyfres y mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn ei chynhyrchu (y ffilm gyntaf yn y gyfres oedd Dod i adnabod Gerraint a’r ail ffilm oedd Working with Willow), lle rydym yn gofyn i bobl o fewn y gymuned awtistig beth hoffent eu rhieni /gofalwyr, gweithwyr proffesiynol, a’r cyhoedd i wybod am awtistiaeth. Bydd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn parhau i gynhyrchu straeon digidol i ddathlu cyflawniadau’r rheini o fewn y gymuned awtistig ledled Cymru.