Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Gwobr Dysgu gydag Ysgol Uwchradd Awtistiaeth

Mae’r Rhaglen Dysgu am Awtistiaeth yn ffordd o godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am anghenion disgyblion awtistig trwy’r ysgol gyfan.  Gallwch chi gyflwyno cais am eich gwobr ysgol trwy lenwi’r ffurflen isod gan ofalu bod:

  • yr holl staff dysgu a chefnogi wedi cwblhau’r cynllun tystysgrif;
  • yr holl staff cefnogi eraill (gan gynnwys staff gweinyddu, arlwyo a llywodraethwyr) wedi cwblhau’r Cynllun ‘Ymwybodol o Awtistiaeth’;
  • y rhan fwyaf o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 3 a 4 wedi cyflawni’r wers Sgilti ac wedi arwyddo’r Siarter Ymwybodol o Awtistiaeth;
  • arferion wedi newid yn yr ysgol.

Rydym yn gallu gwirio faint sydd wedi cwblhau’r cynlluniau yn eich lleoliad.  Pan fydd y rhan fwyaf neu bawb o’ch lleoliad wedi cwblhau’r cynllun, byddwn ni’n cyhoeddi eich tystysgrif ac yn ychwanegu enw’r lleoliad at ein cronfa ddata.

I weld pa ysgolion sydd wedi cwblhau’r rhaglen Dysgu am Awtistiaeth, cliciwch yma.