Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Gwobr Dysgu gydag Ysgol Gynradd Awtistiaeth

Mae Rhaglen Dysgu am Awtistiaeth yn ffordd o godi ymwybyddiaeth trwy’r ysgol gyfan.  Cewch chi gyflwyno cais trwy lenwi’r ffurflen isod gan ofalu bod:

  • pob athro wedi cwblhau cynllun tystysgrif yr athrawon;
  • staff cymorth dysgu wedi llwyddo yng nghynllun eu tystysgrif nhw;
  • pawb arall megis staff gweinyddu a llywodraethwyr wedi cwblhau Cynllun ‘Ymwybodol o Awtistiaeth’;
  • y rhan fwyaf o blant Cyfnod Allweddol 2 wedi llofnodi Siarter Archarwr Awtistiaeth;
  • arferion wedi newid yn eich ysgol.


Rydym yn gallu gwirio faint sydd wedi cwblhau’r cynlluniau yn eich lleoliad.  Pan fydd y rhan fwyaf neu bawb o’ch lleoliad wedi cwblhau’r cynllun, byddwn ni’n cyhoeddi eich tystysgrif ac yn ychwanegu enw’r lleoliad at ein cronfa ddata.

I weld pa ysgolion sydd wedi cwblhau’r rhaglen Dysgu am Awtistiaeth, cliciwch YMA.

I ail-ymgeisio am y wobr Dysgu am Awtistiaeth ar ôl cyfnod o 4 blynedd, cliciwch YMA.